Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 14/03/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
13.30 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon. |
|
13.30 - 14.30 |
Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Mick Antoniw AS,
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Piers Bisson,
Cyfarwyddwr: Pontio Ewropeaidd, Llywodraeth Cymru Adam Turbervill,
Uwch Gyfreithiwr, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch canlyniad
yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol a dull Llywodraeth Cymru o
ddeddfu. |
|
14.30 - 14.35 |
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. Dogfennau ategol: |
|
SL(6)164 - Rheoliadau Llacio’r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2022 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
SL(6)166 - Gorchymyn Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (Awdurdod Ychwanegol) (Cymru) 2022 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
SL(6)168 - Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
14.35 - 14.40 |
Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 |
|
SL(6)163 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)167 - Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb
Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau
adrodd a nodwyd. |
||
14.40 - 14.45 |
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7 Dogfennau ategol: |
|
SL(6)165 - Cyfarwyddyd Mesurau Diogelwch ac Argyfwng (Ymgymerwyr Dŵr a Charthffosiaeth a Thrwyddedeion Cyflenwi Dŵr) 2022 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
14.45 - 14.50 |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol |
|
SL(6)126 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd a nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth
Cymru. |
||
SL(6)157 - Rheoliadau Bwyd (Tynnu Cydnabyddiaeth yn Ôl) (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd a nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth
Cymru. |
||
14.50 - 14.55 |
Fframweithiau cyffredin |
|
Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer labelu cysylltiedig â maeth, cyfansoddiad a safonau Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant at y Pwyllgor Iechyd, Gofal
Cymdeithasol a Chwaraeon. |
||
Gohebiaeth gan Bwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin Tŷ’r Arglwyddi at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig: Fframwaith ar Gymorth Amaethyddol Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan
Bwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin Tŷ’r Arglwyddi at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion
Gwledig. |
||
14.55 - 15.00 |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Gwaharddiadau Ifori (Cosbau Sifil) 2022 a Rheoliadau Deddf Ifori 2018 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: y Grŵp Rhyngweinidogol ar Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan y Gweinidog Newid Hinsawdd. |
||
Datganiad Ysgrifenedig gan Weinidog yr Economi: Cyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Cysylltiadau rhwng y DU a'r UE Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y datganiad
ysgrifenedig gan Weinidog yr Economi. |
||
Gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Cytundeb Masnach a Chydweithredu Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan y Prif Weinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. |
||
15.00 - 15.10 |
Papurau i'w nodi |
|
Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar gyfer y Bil Iechyd a Gofal (memoranda rhif 2 a rhif 3) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Pwyllgor Iechyd, Gofal
Cymdeithasol a Chwaraeon. |
||
Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) y Bil Cymwysterau Proffesiynol Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg. |
||
Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Ymateb Llywodraeth Cymru i Ymgynghoriad Llywodraeth y DU Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y datganiad
ysgrifenedig gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Cwnsler Cyffredinol a
Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||
Gohebiaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. |
||
Datganiad Ysgrifenedig gan Weinidog yr Economi: Y Diweddaraf am Safleoedd Rheoli Ffin Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y datganiad
ysgrifenedig gan Weinidog yr Economi. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. |
||
15.10 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
15.10 - 15.20 |
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3 a Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Diogelwch Adeiladau – trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif
3 a Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Diogelwch Adeiladau a chytunodd arno. Nododd y
Pwyllgor y byddai ei adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol. |
|
15.20 - 15.30 |
Trafod cytundebau rhyngwladol Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y Confensiwn ar y Sefydliad
Rhyngwladol ar gyfer Cymhorthion Mordwyaeth Forol a’r Cytundeb rhwng y DU, Ffrainc a'r Almaen ar Adeiladu a
Gweithredu Adweithydd Fflwcs Niwtron Uchel Iawn, a chytunodd i ystyried
adroddiad drafft yn ei gyfarfod ar 21 Mawrth 2022. |
|
15.30-15.45 |
Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad - trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod ei
sesiwn gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y
Cyfansoddiad a chytunodd i ysgrifennu ato i ofyn am ragor o wybodaeth. |