Fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer safonau cyfansoddiadol bwyd a labelu
Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
yn ystyried y fframwaith
cyffredin dros dro ar gyfer safonau cyfansoddiadol bwyd a labelu.
Cyhoeddwyd y fframwaith
cyffredin dros dro ar gyfer safonau cyfansoddiadol bwyd a labelu fis Chwefror
2022. Mae'n nodi sut y bydd Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig yn
cydweithio mewn perthynas â safonau cyfansoddiadol bwyd a labelu y tu allan i'r
UE.
Ar 18 Mawrth
2022, ysgrifennodd
y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a
Llesiant i ofyn am ragor o wybodaeth am y fframwaith.
Ar ôl ystyried yr
ymateb
a gafwyd gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, ysgrifennodd
y Pwyllgor at y Dirprwy Weinidog ar 14 Mehefin 2022 yn gwneud argymhellion.
Darparodd y Dirprwy Weinidog ymateb
dros dro ar 28 Gorffennaf 2022, yn nodi na allai ymateb i’r argymhellion
nes bod holl ddeddfwrfeydd y DU wedi cwblhau eu gwaith craffu ar y fframwaith.
Mae mwy o
wybodaeth gefndirol am fframweithiau cyffredin a gwaith craffu’r Senedd ar gael
ar y dudalen
we’r fframweithiau cyffredin.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/03/2022
Dogfennau
- Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer labelu, cyfansoddiad a safonau sy'n gysylltiedig â maeth - 18 Chwefror 2022
PDF 829 KB
- Llythyr at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer labelu, cyfansoddiad a safonau sy'n gysylltiedig â bwyd - 18 Mawrth 2022
PDF 135 KB
- Llythyr at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer labelu, cyfansoddiad a safonau sy'n gysylltiedig â bwyd - 21 Ebrill 2022
PDF 1 MB
- Llythyr at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer labelu, cyfansoddiad a safonau sy'n gysylltiedig â bwyd - 14 Mehefin 2022
PDF 280 KB
- Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer labelu, cyfansoddiad a safonau sy'n gysylltiedig â bwyd - 28 Gorffennaf 2022
PDF 269 KB