Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/07/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod Yn unol â Rheol
Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd
o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Ni chafwyd
ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant. |
|
Deisebau newydd Covid-19 |
|
P-05-975 Ailystyriwch y codiad i’r dreth gyngor ar gyfer ail gartrefi tra'i bod yn anghyfreithlon i deithio i ail gartrefi. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, gan nodi ymateb y Gweinidog Cyllid bod defnyddio'r
pŵer dewisol i godi
premiwm treth gyngor yn fater i awdurdodau lleol unigol. Cytunodd yr Aelodau i
ysgrifennu at Gyngor Sir Penfro i nodi barn y deisebydd wrtho. |
|
P-05-976 Caniatáu priodasau sy’n cynnwys 5 o bobl (cofrestrydd/y pâr/2 dyst) yn ystod COVID 19 yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
fod nodau'r ddeiseb wedi'u cyflawni, yng ngoleuni'r ffaith bod seremonïau
priodas bach bellach yn gallu cael eu cynnal eto yng Nghymru. Oherwydd hynny,
cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolchodd i’r deisebydd am ei chyflwyno. |
|
P-05-977 Ailagor gwasanaethau deintyddol cyffredinol llawn yng Nghymru fel sydd wedi digwydd yn Lloegr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd fod gwasanaethau deintyddol bellach
yn mynd drwy gamau ailagor yn raddol. Cytunodd y Pwyllgor i ddychwelyd at y
ddeiseb yn yr hydref i ystyried y sefyllfa ddiweddaraf bryd hynny. |
|
P-05-978 Caniatáu i'r holl sŵau ac atyniadau bywyd gwyllt ailagor gyda chamau cadw pellter cymdeithasol ar waith ledled Cymr Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor fod nodau'r ddeiseb bellach wedi'u cyflawni, yng ngoleuni'r ffaith bod
atyniadau awyr agored i ymwelwyr, gan gynnwys sŵau, bellach yn gallu
ailagor. Oherwydd hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolchodd i’r
deisebydd am ei chyflwyno. |
|
P-05-979 Mabwysiadu polisïau llywodraeth y DU o ran llacio’r cyfyngiadau symud. Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb gan Lywodraeth
Cymru cyn ystyried y ddeiseb ymhellach. |
|
P-05-980 Ymestyn grantiau ar unwaith i fusnesau bach yng Nghymru nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, nododd ymateb y Gweinidog Cyllid a
chytunwyd i ofyn am ragor o wybodaeth ar faint y disgresiwn sydd ar gael i
awdurdodau lleol o ran dyfarnu grantiau neu gyllid arall i fusnesau nad ydynt
yn cael eu cynnwys yn y Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach. |
|
P-05-981 Caniatáu i gampfeydd a chanolfannau hamdden ailagor Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ochr yn ochr â deiseb P-05-986 Caniatáu i gampfeydd bach a safleoedd hyfforddi
personol agor yn gynt yn ystod cyfyngiadau COVID, a chytunwyd i
ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon i ofyn: ·
a all Llywodraeth Cymru nodi tystiolaeth
sy'n dangos bod campfeydd a chyfleusterau chwaraeon dan do eraill yn peri risg
trosglwyddo penodol o ran Covid-19, a ·
pha ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru
wedi'i rhoi i bwysigrwydd ymarfer corff i iechyd meddwl a lles pobl o ran eu penderfyniadau
ynghylch agor cyfleusterau hamdden. |
|
P-05-986 Caniatáu i gampfeydd bach a safleoedd hyfforddi personol agor yn gynt yn ystod cyfyngiadau COVID Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ochr yn ochr â deiseb P-05-981 Caniatáu i gampfeydd a chanolfannau hamdden ailagor
a chytunwyd i ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a
Chwaraeon i ofyn: ·
a all Llywodraeth Cymru nodi tystiolaeth
sy'n dangos bod campfeydd a chyfleusterau chwaraeon dan do eraill yn peri risg
trosglwyddo penodol o ran Covid-19, a ·
pha ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru
wedi'i rhoi i bwysigrwydd ymarfer corff i iechyd meddwl a lles pobl o ran eu
penderfyniadau ynghylch agor cyfleusterau hamdden. |
|
P-05-982 Dylid ail-agor cyrtiau tenis awyr agored a hyfforddiant yn unol â gweddill y DU ac Ewrop Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ei bod yn ymddangos bod nodau'r ddeiseb
wedi'u cyflawni, yng ngoleuni'r ffaith bod caniatâd i ailagor cyfleusterau
tenis awyr agored yng Nghymru er 22 Mehefin. Felly cytunodd y Pwyllgor i gau'r
ddeiseb. |
|
P-05-983 Rhowch gymorth grant i fusnesau Gwely a Brecwast yng Nghymru sy'n talu’r dreth gyngor ac nid ardrethi busnes Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y
Gweinidog Cyllid i roi sylwadau pellach y deisebydd, ac i ofyn a oes cynllun
cymorth ar gael ar gyfer busnesau gwely a brecwast nad ydynt yn talu ardrethi
busnes, os nad ydynt yn gyflogwyr nac wedi'u cofrestru ar gyfer TAW, ac a ellid
defnyddio cyllid gan Lywodraeth y DU yn y dyfodol at y diben hwn. |
|
P-05-984 Dylid rhoi’r gorau i ymgynghoriadau o bell sy’n gwahaniaethu o ran ceisiadau llosgyddion yn ystod y pandemig Covid-19 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a
chytunodd i ysgrifennu’n ôl
at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i: ·
roi cyflwyniad diweddaraf y deisebydd iddi;
·
ofyn iddi ystyried arfer ei phwerau i
ymestyn yr amserlen ar gyfer ymgynghori os a phan fydd ymgynghoriad yn symud
ymlaen i fod yn gais llawn; ac i ·
ofyn sut y byddai'r deisebydd yn gallu
gwneud cais o'r fath ar yr adeg briodol. |
|
P-05-985 Darparu gofal plant i weithiwr allweddol sy'n cyfateb i'r hyn a oedd ar gael cyn pandemig Covid-19 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog
Addysg i ddarparu ymateb y deisebydd i'w llythyr, ac i ofyn beth yw
disgwyliadau'r Llywodraeth o ran darpariaeth gofal plant ar gyfer plant
gweithwyr allweddol yn ystod y gwyliau haf ac, yn dilyn y cyhoeddiad y bydd
disgwyl i ysgolion ailagor yn llawn ar gyfer tymor yr hydref, gofyn am ragor o
wybodaeth am y ddarpariaeth oriau estynedig y disgwylir iddi fod ar gael i
weithwyr allweddol. |
|
P-05-988 Rhowch fynediad cyfartal at eu hysgolion a’u hathrawon i blant gweithwyr allweddol. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y
Gweinidog Addysg i roi’r sylwadau a wnaed gan y deisebydd, ac i ofyn: ·
p'un a yw hi'n ystyried y gellid osgoi
gwahaniaethau lleol neu ranbarthol o ran y ddarpariaeth addysg ar gyfer plant
gweithwyr allweddol, a sut y byddai gwneud hynny os bydd unrhyw leihad o ran y
ddarpariaeth ysgol yn y dyfodol; a ·
ph'un a fydd grwpiau cyswllt neu 'swigod'
ar gael yn llawn o fis Medi i blant gweithwyr allweddol, neu unrhyw rieni sydd
angen gofal plant cofleidiol. |
|
P-05-990 Agor ysgolion ym mis Medi. Cael gwared ar ddysgu cyfunol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni’r
cyhoeddiad diweddar gan y Gweinidog Addysg y bydd ysgolion yng Nghymru yn
dychwelyd yn llawn amser i'r holl ddisgyblion ym mis Medi. Nododd y Pwyllgor
lwyddiant y ddeiseb a diolchodd i’r deisebwyr am godi’r mater hwn. |
|
Deisebau newydd eraill |
|
P-05-954 Deiseb yn galw am ymchwiliad cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru i gam-drin plant hanesyddol ar Ynys Byr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Dirprwy
Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i roi’r ohebiaeth a ddaeth i law’r
Pwyllgor ac i ofyn iddi ddarparu ymateb pellach. Tynnodd y Pwyllgor sylw hefyd
at yr arwyddion a dderbyniwyd na fydd yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant
yn Rhywiol yn ystyried cam-drin a ddigwyddodd ar Ynys Byr yn benodol, a
gofynnodd bod rhagor o ystyriaeth i fater cynnal ymchwiliad cyhoeddus yng
ngoleuni hyn. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-05-931 Eli haul mewn ysgolion Dogfennau ategol: Cofnodion: Yn wyneb y diffyg
cyswllt gan y deisebydd gwreiddiol, ac o nodi'r ymateb i'r ddeiseb a ddarparwyd
gan y Gweinidog Addysg, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb. |
|
P-05-958 Penderfyniadau Diweddar Ynglŷn â Graddau UG 2020 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Yng ngoleuni’r
ffaith bod y deisebydd yn derbyn yr esboniad ychwanegol a ddarparwyd gan y Gweinidog
Addysg a'r ffaith ei bod yn annhebygol y bydd graddau ar gyfer blwyddyn
academaidd 2019/20 yn cael eu newid ar hyn o bryd, cytunodd y Pwyllgor i gau'r
ddeiseb gan mai ychydig iawn yn rhagor y gallai ei gyflawni, a diolchodd i'r
deisebydd. |
|
P-05-962 Diwygiad brys i ymestyn yr oedran y ceir hawl i gymorth addysgol ychwanegol o 25 i 26 ac i ddiffinio pandemig Covid-19 yng nghanllawiau'r Llywodraeth fel amgylchiad eithriadol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor wybodaeth bellach a nododd y diweddariad gan y Gweinidog Addysg, gan
gynnwys y cadarnhad bod pedwar cais am estyniadau wedi dod i law a bod pob un
wedi'i gymeradwyo, a chytunodd i aros am ymateb sylweddol pellach i'r materion
a godwyd yng ohebiaeth flaenorol y deisebydd. |
|
P-05-906 Achub Ward Sam Davies yn Ysbyty y Barri Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor wybodaeth bellach am y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Fwrdd
Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i ofyn am ymateb i'r pryderon a godwyd gan
Gyngor Iechyd Cymuned De Morgannwg a diweddariad ar y sefyllfa bresennol o ran llwybr y claf ar gyfer pobl hŷn eiddil a Ward Sam Davies. |
|
P-05-914 Mynediad Cyfartal i Ofal Iechyd ar gyfer yr Anabl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Yng ngoleuni'r
ymatebion a ddarparwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol bod gan fyrddau iechyd ddyletswyddau o
ran sicrhau y gall gwasanaethau meddygon teulu a gomisiynir fodloni
dyletswyddau cydraddoldeb ac anghenion eu poblogaethau lleol, cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at bob bwrdd iechyd lleol i ofyn am fanylion o ran faint
o feddygfeydd yn eu hardaloedd sy'n darparu gwelyau triniaeth a theclynnau codi
y gellir eu haddasu at ddefnydd cleifion anabl. Cytunodd y
Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at SHINE (Rhwydwaith Gwybodaeth Cydraddoldeb
Spinabifida a Hydrocephalus) a Chymdeithas Anafiadau Asgwrn Cefn, i ofyn am eu
barn a'u profiadau o ddarparu gwelyau triniaeth a theclynnau codi y gellir eu
haddasu mewn gwasanaethau meddygon teulu yng Nghymru. |
|
P-05-926 Dylid Darparu Adran Blinder Cronig yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor wybodaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Iechyd
a Gwasanaethau Cymdeithasol i roi iddo'r argymhellion a ddarparwyd gan
Gymdeithas Cymorth ME a CFS Cymru (WAMES) ac i ofyn am ymateb i'r rhain. |
|
P-05-960 Dylid talu costau angladdau pob un o staff y GIG sy’n marw o Covid-19 neu gyda’r feirws Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ragor o ohebiaeth ar y ddeiseb, a nododd y cadarnhad a ddarparwyd gan
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bod gan deuluoedd staff locwm a
staff asiantaeth, a dinasyddion nad ydynt yn dod o Brydain sy'n gweithio yn y
GIG hawl i wneud cais am y Cynllun Budd-dal Marwolaeth mewn Gwasanaeth. Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i
fynegi ei 'gefnogaeth i farn y deisebwyr' y dylid talu am gostau angladd
sylfaenol staff y GIG sy'n marw o ganlyniad i gael Covid-19 drwy eu gwaith, yn
ychwanegol at y Cynllun Budd-dal Marwolaeth mewn Gwasanaeth. |
|
P-05-964 Dylid ymestyn absenoldeb â thâl a chymorth ariannol a ddarperir mewn ymateb i Covid-19 i staff cronfa GIG Cymru sy’n agored i niwed a staff sy’n feichiog Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor wybodaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Iechyd
a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod toriad yr haf i ofyn am y wybodaeth
ddiweddaraf am yr ystyriaeth sy’n cael ei rhoi i'r mater hwn, ac am
gasgliadau’r ystyriaeth. |
|
P-05-934 Trafnidiaeth Gyhoeddus ym Mlaenau Gwent Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunwyd i ysgrifennu at: ·
Gyngor Blaenau Gwent unwaith yn rhagor i
ofyn am ymateb i'r ohebiaeth flaenorol, gan ystyried effaith ddilynol y
pandemig Covid-19; a ·
Llywodraeth Cymru ynglŷn â chynnydd y
gwaith a wnaed gan Dasglu'r Cymoedd, gweithredu'r cynllun cyflawni a pha
gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddiweddaru eu Strategaeth ar gyfer
Trafnidiaeth Gyhoeddus yn y tymor byr, y tymor canolig a’r hirdymor yn sgîl Covid-19. |
|
P-05-955 Gwrthwynebu cynnig Costain i weithredu Opsiwn B ar gyfer dargyfeirio'r A465 ym Mryn-mawr Dogfennau ategol: Cofnodion: Yng ngoleuni'r
ffaith bod Llywodraeth Cymru a Costain wedi cadarnhau y bydd Opsiwn B yn cael
ei weithredu, cytunodd y Pwyllgor nad oes fawr ddim pellach y gallai ei
gyflawni ar hyn o bryd. Nododd rwystredigaeth y deisebwyr ond cytunwyd i gau'r
ddeiseb. |
|
P-05-968 Talu grantiau Coronafeirws i bob busnes sy'n gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach, yr un fath â gweddill y DU Dogfennau ategol: Cofnodion: Gan fod llety
hunanarlwyo bellach yn gallu ailagor yng Nghymru, ac yn absenoldeb sylwadau
pellach gan y deisebydd, cytunodd y Pwyllgor i beidio â chymryd unrhyw gamau
pellach a chau'r ddeiseb. |
|
P-05-973 Ailagor siopau barbwyr a siopau trin gwallt cyn belled â’u bod yn gosod mesurau cadw pellter cymdeithasol llym Dogfennau ategol: Cofnodion: Yng
ngoleuni'r ffaith bod y cyfyngiadau ar farbwyr a salonau trin gwallt wedi cael
eu codi ar 13 Gorffennaf, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolchodd i'r
deisebydd am dynnu sylw at y mater. |