P-05-958 Penderfyniadau Diweddar Ynglyn â Graddau UG 2020

P-05-958 Penderfyniadau Diweddar Ynglyn â Graddau UG 2020

Wedi'i gwblhau

 

P-05-958 Penderfyniadau Diweddar Ynglŷn â Graddau UG 2020

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sian Williams, ar ôl casglu cyfanswm o 219 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Gwnaed penderfyniad yn ddiweddar gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, ynghylch cymwysterau Lefel UG 2020. Yn ôl datganiad a gyhoeddwyd ganddi:

 

“Yn haf 2021, bydd gan y dysgwyr UG presennol ddau ddewis ar gyfer eu dyfarniad Safon Uwch. Gallant ddewis a ydynt am:

- sefyll yr unedau U2 yn unig, gyda'r radd Safon Uwch yn cael ei dyfarnu ar eu perfformiad yn yr unedau U2 yn unig;

- neu sefyll yr unedau UG ac U2. Byddant yn derbyn y radd orau o'r naill lwybr neu'r llall.”

 

Fodd bynnag, nid yw hyn yn cymryd i ystyriaeth fyfyrwyr sydd wedi gweithio'n galed iawn i gael rhagolygon am raddau da trwy gydol Blwyddyn 12, ac a oedd felly'n barod ar gyfer yr arholiadau; roedd y cyntaf o’r arholiadau hynny i ddechrau ymhen dim ond pedair wythnos o'r adeg y gwnaed y penderfyniad hwn.

 

Byddai Blwyddyn 12 fel arfer yn cyfrannu at 40 y cant o'r radd Safon Uwch gyffredinol.

 

Os yw myfyriwr yn dewis sefyll Unedau U2 yn unig, yn unol â'r opsiwn cyntaf uchod, bydd myfyrwyr wedi gweithio'n ddiflino yn ystod Blwyddyn 12 am 0 y cant o'u gradd Safon Uwch, sydd erioed wedi digwydd o'r blaen. Mae hyn yn cynyddu’r pwysau aruthrol ar fyfyrwyr sy’n parhau i Flwyddyn 13 ac yn gwrth-ddweud gobaith y Gweinidog o gael “system deg” sy’n cynorthwyo “lles” myfyrwyr. At hynny, ni roddir cyfrif am y pwysau ychwanegol hwn yn y dyfodol pan fydd carfan myfyrwyr 2021 yn cystadlu am swyddi gyda myfyrwyr a gredydwyd gan y system lawer tecach a oedd ar waith o'r blaen.

 

Mae'r ail lwybr o gymryd unedau UG ac U2 yn 2021 nid yn unig yn golygu nad yw Blwyddyn 12 eto'n cyfrannu dim at y radd Safon Uwch yn gyffredinol, ond nad yw ychwaith yn lleihau’r pwysau aruthrol sydd eisoes ar Flwyddyn 13. Yn lle hynny, mae'n cymryd holl bwysau’r ddwy flynedd ac yn eu cyfuno ar gyfer arholiadau yng nghyfres arholiadau Haf 2021.

 

Nid yw hyn yn deg, ac ni ddylem gael ein drysu gan y datganiadau a ryddhawyd i gredu ei fod yn deg.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

​​Mae addysg yn agwedd hanfodol ar fywyd myfyriwr, yn enwedig y rhai sydd wedi penderfynu parhau â Safon Uwch, y mae angen dyfalbarhad a gwaith caled ar bob un ohonynt, yn y gobaith o gyflawni'r graddau sydd eu hangen ar gyfer y cynlluniau at y dyfodol.

 

Mae'r hwn eisoes yn gyfnod o straen mawr ar fyfyrwyr.

 

Y peth olaf sydd ei angen arnom yw penderfyniad brysiog sydd yn y pen draw yn niweidiol i'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

 

Bydd y ddau lwybr a gynigir yn anfanteisiol i fyfyrwyr.

 

Gofynnwn i'r penderfyniad hwn gael ei addasu i gymryd pob myfyriwr i ystyriaeth.

 

A picture containing person, boy, young, looking

Description automatically generated

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • De Clwyd
  • Gogledd Cymru

 

Statws

 

Yn ei gyfarfod ar 17.07.20 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Yng ngoleuni’r ffaith bod y deisebydd yn derbyn yr esboniad ychwanegol a ddarparwyd gan y Gweinidog Addysg a'r ffaith ei bod yn annhebygol y bydd graddau ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20 yn cael eu newid ar hyn o bryd, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan mai ychydig iawn yn rhagor y gallai ei gyflawni, a diolchodd i'r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

 

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 12.05.20.

 

Rhagor o wybodaeth

         

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 30/04/2020