P-05-906 Achub Ward Sam Davies yn Ysbyty y Barri
P-05-906 Achub Ward Sam Davies yn Ysbyty y Barri
P-05-906 Achub
Ward Sam Davies yn Ysbyty y Barri
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
UNISON, ar ôl casglu cyfanswm o 1,858 lofnodion ar-lein a 11,407 ar bapur, sef
cyfanswm o 13,265 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar
Lywodraeth Cymru, sef y prif gorff sy'n gyfrifol am ddarparu gofal iechyd yng
Nghymru, i atal cynnig Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i gau Ward Sam
Davies, ward adsefydlu acíwt pobl hŷn gyda 23 o welyau yn Ysbyty y Barri,
ac i sicrhau bod Ysbyty y Barri yn parhau i ddarparu gwasanaethau iechyd i'r
cyhoedd yn y Barri, y dref fwyaf yng Nghymru.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Mae Ward Sam Davies yn
ward adsefydlu acíwt pobl hŷn gyda 23 o welyau. Mae'r gwasanaeth yn
cynnwys adsefydlu strôc, adsefydlu orthopedig, ac adsefydlu meddygol ymhlith
gwasanaethau iechyd allweddol eraill. Mae gan y ward ddau wely seibiant hefyd.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 13/10/2020 penderfynodd y
Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Ystyriodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a
chytunwyd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r ffaith bod Ward Sam Davies wedi aros
ar agor a bod y deisebwyr yn fodlon â'r sefyllfa bresennol.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor
Deisebau ar 05/11/2019.
Etholaeth a Rhanbarth y
Cynulliad
- Canol Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch
e-ddeiseb
- Sut
mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/09/2019