P-05-982 Dylid ail-agor cyrtiau tenis awyr agored a hyfforddiant yn unol â gweddill y DU ac Ewrop
P-05-982 Dylid ail-agor cyrtiau tenis awyr agored a hyfforddiant yn unol â gweddill y DU ac Ewrop
P-05-982 Dylid ail-agor cyrtiau tenis awyr agored a
hyfforddiant yn unol â gweddill y DU ac Ewrop
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Georgina Hawkey, ar ôl casglu cyfanswm o 214 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
tenis ymhlith yr ychydig iawn o chwaraeon lle mae modd cadw pellter
cymdeithasol, ac mae’n fath rhagorol o ymarfer corff. Mae hyn yn golygu ei fod
yn ddewis arbennig o dda i bobl sydd am ymarfer corff mewn modd diogel yn ystod
cyfnod y coronafeirws, gan gefnogi iechyd meddwl a lles corfforol llawer o bobl
ifanc ac oedolion. Mae’r Alban, Lloegr a Gorllewin Ewrop wedi ailagor cyrtiau
tenis awyr agored a hyfforddiant. Mae’r canlyniadau yn dangos bod ailagor
cyrtiau tenis awyr agored wedi bod yn llwyddiannus.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Mae
tenis yn addas ar gyfer cadw pellter cymdeithasol ac mae tystiolaeth yn y DU a
gweddill Ewrop yn dangos bod y gamp yn ddiogel. Bydd oedi pellach yn rhoi
straen ariannol ar hyfforddwyr a bydd yn rhoi chwaraewyr o Gymru sy’n cystadlu
dan anfantais sylweddol o gymharu â chwaraewyr eraill yn y DU ac Ewrop. Mae
hyfforddwyr yn Lloegr, drwy ddilyn rheolau penodol, wedi gallu dechrau
hyfforddi'n ddiogel eto, sy’n eu galluogi i gael incwm eto ac yn eu helpu i
ddychwelyd i normalrwydd. Os bydd rhagor o oedi, bydd chwaraewyr sy’n cystadlu
ymhlith y rhai yr effeithir arnynt fwyaf. Bydd yr oedi pellach hwn yn golygu eu
bod yn bell ar ei hôl hi o’u cymharu â chwaraewyr eraill ledled y DU ac Ewrop o
ran dychwelyd i ffitrwydd cystadlu, a bydd yn cael effaith ar eu dyfodol o ran
cael lle mewn twrnameintiau.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- De Clwyd
- Gogledd Cymru
Statws
Yn ei gyfarfod ar 12/07/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Nododd
y Pwyllgor ei bod yn ymddangos bod nodau'r ddeiseb wedi'u cyflawni, yng
ngoleuni'r ffaith bod caniatâd i ailagor cyfleusterau tenis awyr agored yng
Nghymru er 22 Mehefin. Felly cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.
Gellir
gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r
dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd
ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 17.07.20.
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/07/2020
Dogfennau