P-05-931 Eli haul mewn ysgolion
P-05-931 Eli haul mewn ysgolion
P-05-931 Eli haul mewn ysgolion
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Leigh O'Connor, ar ôl casglu cyfanswm o 120 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae pob plentyn mewn perygl o losg haul
yn yr ysgol neu ar daith ysgol. Mae hyn yn achosi problemau iechyd tymor byr
ond mae hefyd yn achosi problemau hirdymor fel canser croen. Gellid osgoi hyn
yn hawdd drwy ganiatáu i ysgolion roi eli haul arnynt gyda chydsyniad eu
rhieni. Mae llawer o opsiynau ar gyfer gwneud hyn heb i'r athrawon orfod
cyffwrdd y plant os yw hyn yn broblem.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Caerffili
- Dwyrain De Cymru
Statws
Yn ei gyfarfod ar 17.07.20
penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Yn wyneb y diffyg cyswllt gan y deisebydd gwreiddiol, ac
o nodi'r ymateb i'r ddeiseb a ddarparwyd gan y Gweinidog Addysg, cytunodd y
Pwyllgor i gau'r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 21.01.2020
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch
e-ddeiseb
- Sut
mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/01/2020