P-05-962 Diwygiad brys i ymestyn yr oedran y ceir hawl i gymorth addysgol ychwanegol o 25 i 26 ac i ddiffinio pandemig Covid-19 yng nghanllawiau'r Llywodraeth fel amgylchiad eithriadol
P-05-962 Diwygiad brys i ymestyn yr oedran y ceir hawl i gymorth addysgol ychwanegol o 25 i 26 ac i ddiffinio pandemig Covid-19 yng nghanllawiau'r Llywodraeth fel amgylchiad eithriadol
P-05-962 Diwygiad brys i ymestyn yr oedran y ceir hawl i
gymorth addysgol ychwanegol o 25 i 26 ac i ddiffinio pandemig Covid–19 yng
nghanllawiau'r Llywodraeth fel amgylchiad eithriadol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Mike Charles, ar ôl casglu cyfanswm o 537 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym
yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gyfarwyddo ein Llywodraeth i
ddiwygio'r Ddeddf Dysgu a Sgiliau ar frys er mwyn caniatáu i gyllid mewn
colegau arbenigol gael ei ymestyn o 25 oed i 26 i'r rhai y mae pandemig Covid19 yn effeithio arnynt ac i
ddileu neu ddiwygio ar frys ei dogfen ganllaw, rhif: 221/2017 Tachwedd 2017 fel
y caiff argyfwng Covid19 ei ddiffinio fel amgylchiad eithriadol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ymhen
amser, bydd Deddf ADY 2018 yn newid y gyfraith, ond ni all pobl ifanc ag
anghenion cymhleth aros. Mae penderfyniadau ynghylch pa mor hir y gellir eu
cefnogi mewn colegau arbenigol yn cael eu gwneud heddiw. Mae ysgolion a
cholegau sydd wedi cau neu’n gweithredu mewn ffordd gyfyngedig iawn yn colli
amser hollbwysig. O ran y rhai ag anghenion cymhleth, cyfyngir ar eu gallu
anhepgor i gael mynediad at adnoddau dysgu. Mae pobl ag anghenion cymhleth yn
aml yn dysgu drwy fod allan yn yr amgylchedd i ddatblygu annibyniaeth bywyd a
sgiliau cyflogadwyedd hanfodol. Mae’r ystafell ddosbarth y tu allan ond mae hyn
bellach yn cael ei gyfyngu i raddau helaeth. Mae Covid19 yn newid y gallu hwn i
ddysgu mewn ffordd sylweddol.
Mae llawer o rieni a phobl ifanc yn ofni bod hyn
yn un flwyddyn o’r ddwy sy’n agored iddynt. Er bod y canllawiau yn caniatáu ar
gyfer amgylchiadau eithriadol, cânt eu dehongli’n ymarferol fel cyfyngiad o
ddwy flynedd ar y ddarpariaeth ac nid ydynt yn diffinio’n ddigonol yr hyn a
fyddai’n gyfystyr ag amgylchiad eithriadol. Fodd bynnag, dim ond hyd at 25 oed
y mae'r gyfraith yn caniatáu cymorth ac mae angen newid hyn ar frys er mwyn
rhoi cyfle arall i'r rhai yr effeithir arnynt yn ystod y pandemig hwn. Cyfle am
flwyddyn arall â llai o ymyriad.
Bydd hyn, fel arall, yn arwain at golli sgiliau
a mwy o ddibyniaeth ar y wladwriaeth yn sgil hynny. Nid yw hynny'n ddymunol am
gynifer o resymau, yn enwedig y ffaith y byddai colli sgiliau hanfodol yn
drychinebus i'r unigolyn dan sylw.
Rydym yn galw ar ein Llywodraeth i helpu'r rhai
sydd fwyaf agored i niwed. I'w cefnogi am yr hyn y maent wedi'i golli a rhoi
cyfle arall iddynt. Cyfle na ddylid ei golli. I lawer, dyma’r gwahaniaeth rhwng
bywyd o ddibyniaeth ac annibyniaeth.
Statws
Yn
ei gyfarfod ar 15/09/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Trafododd
y Pwyllgor ddiweddariadau pellach am y ddeiseb a nododd y wybodaeth a
ddarparwyd gan y Gweinidog Addysg ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru wedi
cyfathrebu â cholegau Addysg Bellach arbenigol, a’r ceisiadau am estyniad a
gymeradwywyd hyd yma.
Gan
gydnabod pryderon y deisebydd am y canllawiau, sy’n mynd ymhellach na’r
ddeiseb, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.
Gellir
gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r
dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd
ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/06/2020
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- De Caerdydd Phenarth
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/06/2020