P-05-988 Rhowch fynediad cyfartal at eu hysgolion a'u hathrawon i blant gweithwyr allweddol
P-05-988 Rhowch fynediad cyfartal at eu hysgolion a'u hathrawon i blant gweithwyr allweddol
P-05-988 Rhowch fynediad cyfartal at eu hysgolion a’u
hathrawon i blant gweithwyr allweddol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Catherine Evans, ar ôl casglu cyfanswm o 508 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
plant gweithwyr allweddol mewn rhai rhannau o Gymru wedi’u heithrio o’r
sesiynau ‘Ailgydio, Dal i Fyny, Paratoi’ yn eu hysgolion. Nid ydynt yn cael dim
cyswllt wyneb yn wyneb â’u hathrawon na’u cyfeillion os oes hefyd angen i’w
rhieni drefnu gofal plant ar eu cyfer er mwyn i’r rhieni hynny wneud gwaith
hanfodol. Byddant yn cael gofal mewn canolfannau hamdden sydd heb ddigon o
wybodaeth am ddarpariaeth o ran eu hiechyd, eu llesiant emosiynol a’u haddysg.
Dylai
ysgolion gynllunio i gynnwys pob dysgwr y tymor hwn ac ym mis Medi.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Mae
canllawiau gan Lywodraeth Cymru ynghylch ailagor ysgolion yn datgan ‘y bydd yr
holl ddysgwyr sy’n gallu gwneud hynny yn cael cyfle i fynd i’w hysgol neu eu
lleoliad ar gyfer amser wyneb yn wyneb dros weddill tymor yr haf’.
https://llyw.cymru/diolgeu-addysg-canllawiau-gweithredol-i-ysgolion-lleoliadau-addysg-covid-19
Statws
Yn ei gyfarfod ar
03/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y
Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb ac, yng ngoleuni’r sicrwydd a
roddwyd gan y Gweinidog Addysg ynglŷn â blaenoriaethu plant gweithwyr allweddol a gan fod y deisebydd yn fodlon,
cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am godi’r mater.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/07/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Sir Drefaldwyn
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/07/2020