P-05-984 Dylid rhoi'r gorau i ymgynghoriadau o bell sy'n gwahaniaethu o ran ceisiadau llosgyddion yn ystod y pandemig Covid-19

P-05-984 Dylid rhoi'r gorau i ymgynghoriadau o bell sy'n gwahaniaethu o ran ceisiadau llosgyddion yn ystod y pandemig Covid-19

Wedi'i gwblhau

 

P-05-984 Dylid rhoi’r gorau i ymgynghoriadau o bell sy’n gwahaniaethu o ran ceisiadau llosgyddion yn ystod y pandemig Covid-19

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Cynghorydd Amanda Jenner, ar ôl casglu cyfanswm o 392 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Cyhoeddwyd, oherwydd COVID-19, bod ymgeisydd am losgydd mawr yn bwriadu cynnal ymgynghoriad cynllunio "o bell". O dan ddeddfwriaeth Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol, caniateir hyn. Oherwydd Covid-19, ni fydd y Cynghorydd Sir na’r Cyngor Cymuned yn gallu cynnal cyfarfodydd cyhoeddus na chyfarfodydd wyneb yn wyneb â thrigolion. Mae hwn yn gais technegol ac arwyddocaol iawn i nifer. Mae’n annheg / gwahaniaethu yn erbyn yr henoed, pobl anabl a phobl sy’n cael eu gwarchod rhag y feirws i ymgynghori o bell yn ystod y cyfnod hwn.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Efallai na fydd rhai preswylwyr oedrannus yn defnyddio’r rhyngrwyd nac yn gallu cael mynediad ato. Efallai na fydd rhai yn teimlo’n gyfforddus yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn dros y ffôn. Mae ceisiadau o ran llosgyddion yn dechnegol iawn eu natur, felly roedd y Cynghorydd Sir a’r Cyngor Cymuned wedi bwriadu cynnal cyfarfodydd cyhoeddus i sicrhau bod yr holl breswylwyr yn gallu deall a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Roedd yr ymgeisydd am y llosgydd hefyd wedi nodi o’r blaen y byddai’n cynnal cyfarfod cyhoeddus a digwyddiadau ‘galw heibio’. Ni chaniateir hyn oherwydd Covid-19.

Ymhellach, mae’r mater hwn wedi bod ar y gweill ers nifer o flynyddoedd. Ni fyddai’n afresymol i Arolygiaeth Cynllunio Llywodraeth Cymru ohirio’r ymgynghoriad hwn nes bod cyfarfodydd cyhoeddus a chyfarfodydd wyneb yn wyneb yn cael eu caniatáu ac yn ddiogel eto. Byddai hyn er budd y cyhoedd. Byddai’n sicrhau bod gan breswylwyr oedrannus a’r rheini sydd ag anableddau neu a allai fod yn cael eu gwarchod rhag y feirws fynediad teg i gyfrannu at yr ymgynghoriad hwn pe dymunent.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 03/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb ac, yn sgil yr ohebiaeth ddiweddaraf a gafwyd, daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad oes llawer mwy y gellid ei gyflawni ar yr adeg hon. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/07/2020.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Sir Drefaldwyn
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/07/2020