Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 15/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
Deisebau newydd Covid-19 |
|
P-05-1046 Ailystyried y cyfnod clo ac ymchwilio i dystiolaeth wyddonol nad yw’n gweithio a’i fod yn achosi mwy o niwed Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd
i aros am ymateb Llywodraeth Cymru iddi cyn penderfynu a ddylid cymryd camau
pellach ynghylch y ddeiseb. |
|
P-05-1054 Mae’r sector gwallt a harddwch wedi profi ei fod yn ddiogel o ran COVID-19. Peidiwch â’n cau a pheryglu swyddi yng Nghymru unwaith yn rhagor Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gadw golwg ar y mater hwn am y tro,
a chytunodd y byddai'n trafod y ddeiseb ymhellach yng ngoleuni newidiadau i
amgylchiadau yn y flwyddyn newydd a sylwadau pellach gan y deisebydd. |
|
P-05-1060 Caniatewch i archfarchnadoedd werthu eitemau “nad ydynt yn hanfodol” yn ystod y cyfyngiadau symud Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yn ffurfiol gryfder y teimlad a fynegir
yn y ddeiseb, y safbwyntiau pellach a ddarparwyd gan y deisebydd, ac ymateb
Llywodraeth Cymru yn y ddadl a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd. Gan fod y ddeiseb
wedi cael ei thrafod a bod cyfyngiadau’r cyfnod atal byr ar ben, cytunodd y
Pwyllgor nad oes llawer y gellir ei wneud ar hyn o bryd. Gan hynny, cytunodd i
gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu eto at
Lywodraeth Cymru i dynnu ei sylw at y materion pellach a godwyd gan y deisebydd
yn ei gyflwyniad manwl i'r Pwyllgor. |
|
P-05-1062 Rhoi'r gorau i'r prawf rt-PCR i brofi ar gyfer COVID-19, gan nad yw’n addas i’r diben Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb Llywodraeth Cymru
i’r ddeiseb cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach yn ei chylch. |
|
P-05-1070 Dylid cynghori pawb yng Nghymru sy'n eithriadol o agored i niwed neu a fu’n cysgodi gynt i aros gartref, nid mynd i’r gwaith, yn ystod cyfnodau pan fo lefel uchel o haint Covid-19 yn y gymuned Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i
ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu’r
pryderon pellach a fynegwyd gan y deisebydd ac eraill. Yng ngoleuni'r
awgrymiadau bod rhai cyflogwyr yn dangos diffyg empathi neu gefnogaeth i bobl
sy’n wynebu risg uchel, cytunodd y Pwyllgor i ofyn pa gamau y byddai
Llywodraeth Cymru yn ystyried eu cymryd, neu y gallai eu cymryd, yn erbyn
cyflogwyr nad ydynt yn gwneud gweithleoedd yn ddiogel, neu nad ydynt yn ymateb
yn briodol i amgylchiadau aelodau o’u gweithlu sy’n agored i niwed. |
|
P-05-1074 Cynyddwch nifer y bobl sy'n cael bod mewn mannau awyr agored fel y gall pob tîm yng Nghymru ailddechrau chwarae pêl-droed Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gynnwys y
materion a godwyd gan y ddeiseb yn y ddadl eang y mae'r Pwyllgor yn bwriadu ei
chynnal ym mis Ionawr 2021 ar fynediad i chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn
ystod cyfnod y cyfyngiadau symud. Wrth wneud hynny, cytunodd y
Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-05-1076 Caniatáu i'r holl Gelfyddydau Perfformio ailagor - cerddoriaeth fyw, dawns, theatrau a neuaddau cyngerdd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y ddeiseb ac
amlinelliad y Dirprwy Weinidog o'r camau cychwynnol a gymerwyd, ond a oedwyd yn
y cyfamser oherwydd yr amgylchiadau presennol mewn perthynas â throsglwyddo’r
Coronafeirws, sydd hefyd wedi effeithio ar letygarwch a sectorau eraill. Yng ngoleuni gwaith craffu
Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar yr effaith ar y sector hwn,
cytunodd y Pwyllgor i beidio â chymryd camau pellach ei hun ond i ddwyn y
ddeiseb i sylw'r Pwyllgor hwnnw a diolch i'r deisebydd. |
|
P-05-1095 Gosodwch gyfyngiadau symud i ysgolion gael pythefnos o wyliau cyn 24 Rhagfyr a galluogi pawb i gael amser teuluol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Yn dilyn cyhoeddiadau diweddar,
gan gynnwys bod ysgolion uwchradd yng Nghymru wedi newid i addysgu ar-lein ar
gyfer wythnos olaf y tymor a bod ysgolion cynradd mewn rhai ardaloedd hefyd
wedi cau yn gynnar, nododd y Pwyllgor fod y ddeiseb wedi llwyddo i helpu i
ddwyn pryderon i sylw'r Llywodraeth a’r cyfryngau. Gan nad oes llawer pellach y
gall y Pwyllgor ei wneud ar yr adeg hon, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a
diolch i’r deisebydd. |
|
P-05-1099 Peidiwch â chau’r Sector Lletygarwch (Tafarndai, Bwytai, Caffis) heb ddangos tystiolaeth wyddonol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafodwyd y ddeiseb hon ar y
cyd â'r ddeiseb P-05-1100
Caniatáu i dafarndai a bwytai yng Nghymru weini alcohol / aros ar agor ar ôl
6pm. Cytunodd y Pwyllgor i aros am
ymateb ffurfiol Llywodraeth Cymru cyn ystyried a oes camau pellach y gallai eu
cymryd ynghylch y deisebau hyn bryd hynny. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i
ysgrifennu yn ôl at y deisebydd i ofyn am ffynhonnell yr ystadegau a
ddefnyddiwyd yn y ddeiseb. O ran dadl yn y Cyfarfod Llawn,
nododd y Pwyllgor fod y cyfyngiadau ar y diwydiant lletygarwch wedi cael eu
codi sawl gwaith yn y Cyfarfod Llawn yn ystod yr wythnosau diwethaf, gan
gynnwys ar 1 Rhagfyr ac mewn dadl a phleidlais ar 9 Rhagfyr, a bydd y
Rheoliadau eu hunain yn destun pleidlais yn y Cyfarfod Llawn brynhawn 15
Rhagfyr. Felly cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i'w
hysbysu am y ddeiseb ond i beidio â gofyn am ddadl ar hyn o bryd. |
|
P-05-1100 Caniatáu i dafarndai a bwytai yng Nghymru weini alcohol / aros ar agor ar ôl 6pm Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafodwyd y ddeiseb hon ar y cyd â’r ddeiseb P-05-1099 Peidiwch â chau’r
Sector Lletygarwch (Tafarndai, Bwytai, Caffis) heb ddangos tystiolaeth wyddonol. Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb ffurfiol Llywodraeth
Cymru cyn ystyried a oes camau pellach y gallai eu cymryd ynghylch y deisebau
hyn bryd hynny. |
|
P-05-1045 Dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cydnabu’r Pwyllgor gryfder y deisebydd a’i theulu wrth
greu’r ddeiseb a mynegodd y Pwyllgor ei gydymdeimlad dwysaf â nhw. Nododd yr
Aelodau hefyd eu siom na chafwyd ymateb gan Lywodraeth Cymru, a chytunwyd i
ysgrifennu eto gan atodi sylwadau pellach y deisebydd ar gyfer eu hystyried, ac
i ofyn am ymateb cyn gynted â phosibl. |
|
P-05-1056 Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Tai
a Llywodraeth Leol i ofyn pa gamau brys y mae hi'n ystyried eu cymryd i
liniaru'r heriau o ran tai fforddiadwy mewn llawer o gymunedau yng Nghymru, i
geisio ymateb pellach i'r cynigion a gyflwynwyd gan y deisebwyr gan gynnwys, er
enghraifft, newidiadau posibl yn y dreth trafodiadau tir a’r dreth gyngor. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ofyn am i bwerau pellach gael
eu rhoi i awdurdodau lleol i'w galluogi i unioni'r sefyllfa bresennol, a gofyn
i'r Gweinidog fynd i'r afael â'r pwyntiau a godwyd gan y deisebwyr a'r Pwyllgor
yn y datganiad y mae'n bwriadu ei wneud ym mis Ionawr 2021. Cytunodd yr Aelodau i ddychwelyd at y ddeiseb, a’r
posibilrwydd o ddadl bellach neu ymchwiliad penodol gan bwyllgor, yn dilyn y
datganiad hwnnw, a nodwyd hefyd ddiddordeb mewn archwilio ymhellach fater
posibl perchnogion ail gartrefi yn cofrestru eu heiddo ar gyfer ardrethi busnes
er mwyn osgoi talu premiwm y dreth gyngor ar gyfer ail gartrefi. |
|
P-05-1064 Ymestyn y Dreth Trafodiadau Tir chwe mis arall ar ôl 31 Mawrth a chodi’r trothwy i £300,000 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i nodi’r ddeiseb a’r ymateb a gafwyd.
Yng ngoleuni datganiadau clir y Gweinidog fod y trothwy wedi cael ei osod i
adlewyrchu'r farchnad eiddo yng Nghymru ac nad oes cynlluniau cyfredol i
ymestyn y cyfnod, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oedd llawer pellach y
gellid ei gyflawni ar hyn o bryd. Diolchodd y Pwyllgor i’r deisebydd am godi’r
mater hwn a chaeodd y ddeiseb. |
|
P-05-1069 Arbed y tir fferm a'r caeau gwyrdd yn Cosmeston Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog
Cyllid i rannu'r pryderon manwl pellach a godwyd gan y deisebydd a gofyn i
Lywodraeth Gymru eu hystyried mewn perthynas â'r datblygiad, ac i ofyn am
ymateb i'r pwyntiau penodol a godwyd gan y deisebydd. Cytunodd yr Aelodau hefyd i ofyn sut mae Llywodraeth
Cymru yn ceisio cydbwyso buddiannau sy’n gwrthdaro o ran diogelu'r amgylchedd a
datblygu tai ychwanegol, gan gynnwys eiddo fforddiadwy. |
|
P-05-1071 Dylid argraffu rhif cofrestru cerbydau ar becynnau bwyd brys a werthir drwy ffenest y car Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y
ddeiseb ac ymateb Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y strategaeth economi gylchol 'Mwy Nag Ailgylchu' a'r bwriad i gyhoeddi Cynllun Atal Sbwriel y flwyddyn nesaf, a fydd yn
cynnwys camau i fynd i'r afael â thaflu sbwriel o gerbydau. Yng ngoleuni hyn,
cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Llywodraeth i dynnu sylw at ei
ddiddordeb yn y cynnig yn y ddeiseb ac i aros am ymateb a sylwadau pellach gan
y deisebydd cyn trafod a oes camau pellach y gallai eu cymryd. |
|
P-05-1072 Ymchwilio i’r pwerau sydd gan Senedd Cymru mewn perthynas â gwahardd therapi newid cyfeiriadedd rhywiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i
ofyn am ragor o wybodaeth am y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu hystyried,
neu a fyddai’n eu hystyried, i atal therapi trosi rhag gallu digwydd yng
Nghymru. |
|
P-05-1073 Sefydlu ac adeiladu cangen newydd o Amgueddfa Cymru sy’n canolbwyntio ar ran Cymru mewn trefedigaethedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
a gafwyd gan Lywodraeth Cymru a chytunodd i ysgrifennu at Amgueddfa Cymru i
dynnu sylw at y ddeiseb a gofyn am wybodaeth bellach am y gwaith y mae'n ei
wneud mewn perthynas â'r pwnc hwn. |
|
P-05-1077 Peidiwch â newid ffin bleidleisio de Ystrad Mynach Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y ddeiseb a'r wybodaeth bellach a gafwyd. Cydnabu fod y
cyfnod statudol ar gyfer cyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru ar y cynnig hwn
yn dod i ben yn fuan a nododd ei ddisgwyliad y bydd y ddeiseb yn cael ei
hystyried fel rhan o hyn. Cytunodd y Pwyllgor i ddwyn sylw’r Gweinidog i
sylwadau ychwanegol y deisebydd ac, yn unol â’i benderfyniad ar ddeiseb
flaenorol nad yw’n briodol iddo graffu ar gynigion diwygio ffiniau penodol,
penderfynodd gau’r ddeiseb. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-05-908 CF3 yn erbyn y Llosgydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i nodi'r wybodaeth bellach a gafwyd a
nodi'r ffaith bod cais cynllunio bellach yn cael ei ystyried gan yr Arolygiaeth
Gynllunio. O ystyried y broses gynllunio ffurfiol ar gyfer ystyried ceisiadau
am Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol, cytunodd y Pwyllgor nad oes camau
pellach y gall eu cymryd ar yr adeg hon. Gan hynny, cytunodd i gau’r ddeiseb a
diolch i’r deisebydd. |
|
P-05-1003 Mynnu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi’i halogi’n radiolegol yn nyfroedd Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor sylwadau pellach a gafwyd yn dilyn y
ddadl yn y Cyfarfod Llawn a gynhaliwyd ar 21 Hydref a chytunodd i ysgrifennu at
Gyfoeth Naturiol Cymru i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y broses drwyddedu
morol ar gyfer y cais hwn ac ymateb i'r sylwadau pellach a wnaed gan y
deisebwyr. |
|
P-05-914 Mynediad Cyfartal i Ofal Iechyd ar gyfer yr Anabl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i dynnu sylw at y wybodaeth bellach a
gasglwyd ac at yr awgrymiadau ynghylch datblygu trefniadau clwstwr i bractisau
meddygon teulu gael mynediad at offer a chynllun benthyca. Yn unol â chynnig y
BMA, cytunodd y Pwyllgor hefyd i ofyn a fydd y Llywodraeth yn ystyried cychwyn
trafodaethau â byrddau iechyd a grwpiau cleifion, fel SHINE, er mwyn ddatblygu
atebion i'r broblem hon. |
|
P-05-965 Annog y Llywodraeth i gyflwyno ward ar wahân, heblaw’r ward famolaeth, ar gyfer teuluoedd sy'n colli plentyn drwy gamesgoriad Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol, i ddarparu crynodeb o'r sefyllfa a gasglwyd gan
fyrddau iechyd ac i rannu'r ymatebion a gafwyd. Cytunodd hefyd i ofyn am ymateb
pellach yn amlinellu pa gamau pellach y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu
cymryd yng ngoleuni'r cyfleusterau a'r gwasanaethau a amlinellwyd. |
|
P-05-995 Rhyddid i Roi Gwaed Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a'r cyhoeddiad a
wnaed ar 14 Rhagfyr y bydd asesiad mwy unigol o roddwyr yn cael ei gyflwyno yn
haf 2021, gyda'r canlyniad y bydd dynion LGBTQ+ yn gallu rhoi gwaed. Cytunodd y
Pwyllgor i longyfarch y deisebydd ar y llwyddiant a gafwyd trwy ei ymgyrch ac i
gau'r ddeiseb. |
|
P-05-1001 Cynnal ymchwiliad annibynnol i'r dewis o safle ar gyfer y Ganolfan Ganser Velindre newydd arfaethedig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafodwyd y ddeiseb hon ar y cyd â P-05-1018 Cefnogaeth ar gyfer y cynlluniau arfaethedig
presennol i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd yng Nghaerdydd mewn unrhyw
ymchwiliad yn y dyfodol. Yng ngoleuni'r dystiolaeth newydd gan nifer o bartïon a’r
ffaith bod y cyngor a ddarparwyd gan Ymddiriedolaeth Nuffield wedi cael ei
gyhoeddi yn ddiweddar, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn: ·
Tynnu sylw at y wybodaeth
a gafodd y Pwyllgor yng nghyd-destun y gwaith craffu ar yr Achos Busnes
Amlinellol o fewn Llywodraeth Cymru; ·
Gofyn am y
wybodaeth ddiweddaraf am statws cyfredol y gwaith hwn yn sgil cyhoeddi cyngor
Ymddiriedolaeth Nuffield, a amserlen ddangosol ar gyfer ystyriaeth bellach o’r
Achos Busnes Amlinellol gan Lywodraeth Gymru; a ·
Gofyn am ymateb i
bwyntiau pellach a wnaed gan y deisebwyr ar gyfer P-05-1001 mewn perthynas â'u
barn bod angen adolygiad annibynnol llawn o'r model clinigol o hyd, cyn i
benderfyniad gael ei wneud ar y prosiect. |
|
P-05-1018 Cefnogaeth ar gyfer y cynlluniau arfaethedig presennol i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd yng Nghaerdydd mewn unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafodwyd y ddeiseb hon ar y cyd â P-05-1001
Cynnal ymchwiliad annibynnol i'r dewis o safle ar gyfer y Ganolfan Ganser
Felindre newydd arfaethedig. Yng ngoleuni'r dystiolaeth newydd gan nifer o bartïon a’r
ffaith bod y cyngor a ddarparwyd gan Ymddiriedolaeth Nuffield wedi cael ei
gyhoeddi yn ddiweddar, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn: ·
Tynnu sylw at y
wybodaeth a gafodd y Pwyllgor yng nghyd-destun y gwaith craffu ar yr Achos
Busnes Amlinellol o fewn Llywodraeth Cymru; ·
Gofyn am y
wybodaeth ddiweddaraf am statws cyfredol y gwaith hwn yn sgil cyhoeddi cyngor
Ymddiriedolaeth Nuffield, a amserlen ddangosol ar gyfer ystyriaeth bellach o’r
Achos Busnes Amlinellol gan Lywodraeth Gymru; a ·
Gofyn am ymateb i
bwyntiau pellach a wnaed gan y deisebwyr ar gyfer P-05-1001 mewn perthynas â'u
barn bod angen adolygiad annibynnol llawn o'r model clinigol o hyd, cyn i
benderfyniad gael ei wneud ar y prosiect. |
|
P-05-992 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am Hanes Cymru fydd pob disgybl yn ei ddysgu Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i nodi'r cyfraniadau a wnaed yn ystod y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 4
Tachwedd, yr ymatebion ysgrifenedig a gafwyd, a'r argymhelliad ynglŷn â hanes Cymru a wnaed gan y Pwyllgor PPIA yn ei adroddiad craffu Cyfnod 1 ar
y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru). Gan fod dadl bellach wedi’i chynnal, mae gwaith craffu yn cael ei wneud gan
bwyllgor arall, a chan fod Estyn yn cynnal adolygiad o’r modd yr addysgir hanes
Cymru, daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad oes llawer pellach y gallai’r Pwyllgor
Deisebau ei gyflawni ar hyn o bryd. Cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r
deisebydd am ei ymgyrchu parhaus ar y pwnc hwn. |
|
P-05-883 - Wythnos Genedlaethol Hanes Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Yng ngoleuni'r
sylw a roddwyd i’r cyfleoedd cyfredol i ddysgu am hanes Cymru yn y ddadl yn y
Cyfarfod Llawn ar P-05-992 Rydym yn galw ar
Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am Hanes Cymru fydd pob
disgybl yn ei ddysgu, ac addewid blaenorol y Dirprwy Weinidog i drafod
sut y gall gwaith hyrwyddo ddatblygu naratif ehangach, cytunodd y Pwyllgor i
gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-05-1025 Tegwch i fyfyrwyr sy'n sefyll arholiadau yn 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a gafwyd a’r
amlinelliad o'r camau sy'n cael eu cymryd i addasu cynnwys y cwrs a’r asesiad
ohono yn y fframwaith rheoleiddio. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at
Gymwysterau Cymru i ofyn am eu hymateb i'r ddeiseb ac i'r wybodaeth ychwanegol
a ddarparwyd yn ddiweddar gan y deisebwyr a CBAC, cyn ystyried a oes camau
pellach y gallai eu cymryd. |
|
Sylwadau Cloi'r Cadeirydd Wrth
ddod â’r cyfarfod i ben, roedd y Cadeirydd am ddiolch i Dîm Clercio’r Pwyllgor,
Aelodau’r Pwyllgor a phawb a ddangosodd ddiddordeb a chyflwyno Deisebau i’r
Pwyllgor y llynedd. Wrth gloi’r cyfarfod, dymunodd y Cadeirydd Nadolig Llawen
a Blwyddyn Newydd Dda i bawb. |