P-05-1064 Ymestyn y Dreth Trafodiadau Tir chwe mis arall ar ôl 31 Mawrth a chodi'r trothwy i £300,000
P-05-1064 Ymestyn y Dreth Trafodiadau Tir chwe mis arall ar ôl 31 Mawrth a chodi'r trothwy i £300,000
P-05-1064 Ymestyn y Dreth
Trafodiadau Tir chwe mis arall ar ôl 31 Mawrth a chodi’r trothwy i £300,000
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Gavin Powell, ar ôl casglu cyfanswm o 58
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae gwerthiant tai yn ddull a brofwyd o sicrhau sefydlogrwydd yn y
marchnadoedd ariannol a byddai cynnydd o 6 mis ar yr hyn a nodir yn y
canllawiau presennol yn sicrhau sefydlogrwydd hirdymor. Hefyd, yn unol â
Chynlluniau Cymorth i Brynu dylid cynyddu'r gwerth o'r trothwy presennol o
£250,000 i drothwy o £300,000.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
15/12/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cytunodd y
Pwyllgor i nodi’r ddeiseb a’r ymateb a gafwyd. Yng ngoleuni datganiadau clir y
Gweinidog fod y trothwy wedi cael ei osod i adlewyrchu'r farchnad eiddo yng
Nghymru ac nad oes cynlluniau cyfredol i ymestyn y cyfnod, daeth y Pwyllgor i'r
casgliad nad oedd llawer pellach y gellid ei gyflawni ar hyn o bryd. Diolchodd
y Pwyllgor i’r deisebydd am godi’r mater hwn a chaeodd y ddeiseb.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/12/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Tor-faen
- Dwyrain De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/11/2020