P-05-1062 Rhoi'r gorau i'r prawf rt-PCR i brofi ar gyfer COVID-19, gan nad yw'n addas i'r diben

P-05-1062 Rhoi'r gorau i'r prawf rt-PCR i brofi ar gyfer COVID-19, gan nad yw'n addas i'r diben

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Robert O'Shea, ar ôl casglu cyfanswm o 96 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mae wedi dod i'r amlwg mai dim ond chwyddiad 35x a ddefnyddiodd y GIG ar brofion PCR cyn y pandemig honedig. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae'r GIG yn defnyddio chwyddiad 45x ac mae nifer y canlyniadau positif anghywir yn cynyddu'n ddramatig. Mae hyn yn hollol hurt! Nid yw'r PCR yn profi am goronafeirws newydd – mae'n profi am archwys cellol mewndarddol y sawl sy’n cael y prawf! Gronynnau RNA. Mae’n bryd dod â’r achos-demig i ben a rhoi’r gorau i swabio rt-PCR nawr!

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Ar chwyddiant o 45x mae'n amlwg i'r rheini sy'n cynnal gwaith ymchwil annibynnol ac sydd â chefndir academaidd ym maes gwyddoniaeth bod y prawf PCR yn cael ei ddefnyddio i beri ofn a chreu penawdau trawiadol.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 13/09/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i nodi bod Llywodraeth Cymru wedi darparu ei rhesymeg dros ddefnyddio profion RT-PCR, a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/12/2020.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Pontypridd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/11/2020