P-05-1099 Peidiwch â chau'r Sector Lletygarwch (Tafarndai, Bwytai, Caffis) heb ddangos tystiolaeth wyddonol
P-05-1099 Peidiwch â chau’r
Sector Lletygarwch (Tafarndai, Bwytai, Caffis) heb ddangos tystiolaeth wyddonol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Nathan Gill, ar ôl casglu cyfanswm o 25,301
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae sector lletygarwch Cymru wedi dangos ei fod yn gallu cydymffurfio’n
effeithiol â’r rheoliadau COVID llym, gyda thafarndai, barrau, bwytai, caffis a
llawer o leoliadau eraill yn dangos eu bod yn gallu cadw pellter cymdeithasol.
Mae lletygarwch eisoes wedi addasu i ddefnyddio cyfarpar diogelu personol a
mesurau hylendid ychwanegol, yn ogystal â system profi ac olrhain y
llywodraeth.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae tystiolaeth gan y llywodraeth a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos
mai dim ond rhwng 1% a 3% o heintiadau coronafeirws newydd sy’n digwydd mewn
tafarndai, barrau a bwytai. Oni bai bod Llywodraeth Cymru yn fodlon cyhoeddi
tystiolaeth sy’n dangos bod y risg o drosglwyddo yn uwch mewn lleoliadau
lletygarwch, yna byddai’n annheg cosbi’r diwydiant unwaith eto drwy ei gau drwy
gydol mis Rhagfyr.
Mae tafarndai, a’r diwydiant lletygarwch yn gyffredinol, ymhlith y rhai y
mae’r cyfnod clo wedi effeithio arnynt fwyaf. Mae mwy na thraean o fusnesau
lletygarwch yn dweud mai prin yw ei hyder, neu fod ganddynt ddim hyder o gwbl,
y byddant yn goroesi’r tri mis nesaf, yn ôl data a gasglwyd gan y Swyddfa
Ystadegau Gwladol yn gynharach y mis hwn.
Mae’r flwyddyn hon wedi gadael y sector lletygarwch ar ymyl y dibyn, gyda
llawer ohono ar gau drwy gydol 2020 yn sgil y pandemig. Mae masnach y Nadolig
yn hanfodol er mwyn i fusnesau aros ar agor, ac achub llawer rhag gorfod cau am
byth oherwydd colli enillion.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
12/01/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd, o gofio bod cyfyngiadau lefel
rhybudd 4 Coronafeirws ar waith ledled Cymru a bod y materion a nodir yn y ddeiseb
wedi cael eu trafod yn y Cyfarfod Llawn ar sawl achlysur, bod digwyddiadau
dilynol wedi dal i fyny â’r deisebau bellach ac nad oedd llawer o gamau pellach
y gellid eu cymryd ar hyn o bryd. Felly, cytunodd y Pwyllgor i gau’r deisebau a
diolch i’r deisebwyr.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/12/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Ynys Môn
- Gogledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/12/2020