P-05-1060 Caniatewch i archfarchnadoedd werthu eitemau "nad ydynt yn hanfodol" yn ystod y cyfyngiadau symud
P-05-1060 Caniatewch i archfarchnadoedd werthu eitemau "nad ydynt yn hanfodol" yn ystod y cyfyngiadau symud
P-05-1060 Caniatewch i archfarchnadoedd werthu eitemau “nad ydynt yn
hanfodol” yn ystod y cyfyngiadau symud
Cyflwynwyd
y ddeiseb hon gan Gareth Howell, ar ôl casglu cyfanswm o 67,940 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
Llywodraeth Cymru, fel rhan o’i chyfyngiadau “cyfnod atal” 17 diwrnod o hyd, yn
gwahardd gwerthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol mewn siopau a gaiff aros ar
agor. Nid ydym yn cytuno bod hwn yn gam rhesymegol na darbodus, a bydd yn
arwain at fwy o niwed na daioni.
Er
enghraifft, nid ydym yn cytuno y dylai rhieni gael eu gwahardd rhag prynu
dillad ar gyfer eu plant yn ystod y cyfyngiadau symud wrth siopa. Mae hyn yn
anghymesur ac yn greulon, ac rydym yn gofyn i’r penderfyniad gael ei wrthdroi
ar unwaith.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
15/12/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Nododd y Pwyllgor
yn ffurfiol gryfder y teimlad a fynegir yn y ddeiseb, y safbwyntiau pellach a
ddarparwyd gan y deisebydd, ac ymateb Llywodraeth Cymru yn y ddadl a gynhaliwyd
ar 11 Tachwedd. Gan fod y ddeiseb wedi cael ei thrafod a bod cyfyngiadau’r
cyfnod atal byr ar ben, cytunodd y Pwyllgor nad oes llawer y gellir ei wneud ar
hyn o bryd. Gan hynny, cytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/12/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gogledd Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/11/2020