P-05-1073 Sefydlu ac adeiladu cangen newydd o Amgueddfa Cymru sy'n canolbwyntio ar ran Cymru mewn trefedigaethedd

P-05-1073 Sefydlu ac adeiladu cangen newydd o Amgueddfa Cymru sy'n canolbwyntio ar ran Cymru mewn trefedigaethedd

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Kieran Sawdon, ar ôl casglu cyfanswm o 103 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mae mudiad Mae Bywydau Du o Bwys (BLM) wedi tynnu sylw at rai enghreifftiau caswir yn hanes Cymru y mae llawer iawn ohonom heb eu dysgu erioed.

Mae hyn oherwydd y ffaith bod yr Ymerodraeth, yn draddodiadol, yn cael ei hanwybyddu yng Nghymru i raddau helaeth, a hynny am ein bod yn dewis canolbwyntio ar yr elfennau trefedigaethol a wynebwyd gennym ni. Nid yw hyn yn golygu bod gan Gymru lechen lân lle mae camweddau yn y cwestiwn.

Byddai amgueddfa bwrpasol newydd o dan ofal Amgueddfa Cymru yn ffordd briodol o ysgogi'r sgyrsiau anodd hyn ac o addysgu cenedlaethau'r dyfodol.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Wrth inni ddechrau trafod yr hyn a ddylai ddigwydd i greiriau ein gorffennol trefedigaethol, fel cerflun Thomas Picton yn Neuadd Dinas Caerdydd, mae llawer iawn o bobl yn dweud y dylid eu cadw "i addysgu", ond y broblem yw dyna'r union beth nad ydyn nhw wedi ei wneud.

 

Byddai cyfleuster o’r math yn fodd o ddangos darlun llawn y ffigyrau hanesyddol â staen ar eu henwau ac yn fodd o egluro'r erchyllterau a gyflawnwyd ganddynt a’r ffordd y gwnaethant les i Gymru drwy ddulliau ffiaidd.

 

Byddai'n sefyllfa lle byddai pawb ar ei ennill, byddai gennym ffordd o ddysgu ein cenedl yn iawn y caswir am hanes Cymru, a byddem hefyd yn gallu gwneud lle yn ein byd cyhoeddus i bobl BAME sy'n llawer mwy teilwng o barch Cymru, megis Betty Campbell, pennaeth du cyntaf Cymru. Yn wahanol i Thomas Picton, mae rhywun fel hi yn haeddu ei lle yng nghwmni Dewi Sant ac Owain Glyndŵr. Yn wahanol i Thomas Picton, mae rhywun fel hi yn haeddu ei lle yng nghwmni Dewi Sant ac Owain Glyndŵr.

Yng ngoleuni'r pandemig, byddai gwneud hyn hefyd yn ffordd o ysgogi'r economi gan greu mwy o swyddi a chyrchfan newydd i dwristiaid.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 01/11/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Nododd y Pwyllgor ymateb y Gweinidogion a'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn, a’r ffaith y bydd camau pellach yn y dyfodol. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ddiolch i'r deisebydd am y gwaith y mae wedi'i wneud i godi ymwybyddiaeth o'r materion, a chau'r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/12/202.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Canol Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/12/2020