P-05-1054 Mae'r sector gwallt a harddwch wedi profi ei fod yn ddiogel o ran COVID-19. Peidiwch â'n cau a pheryglu swyddi yng Nghymru unwaith yn rhagor
P-05-1054 Mae'r sector gwallt a harddwch wedi profi ei fod yn ddiogel o ran COVID-19. Peidiwch â'n cau a pheryglu swyddi yng Nghymru unwaith yn rhagor
P-05-1054 Mae’r sector gwallt a
harddwch wedi profi ei fod yn ddiogel o ran COVID-19. Peidiwch â’n cau a
pheryglu swyddi yng Nghymru unwaith yn rhagor
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sarah Bruton, ar ôl casglu
cyfanswm o 6,074 lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb:
Mae’r diwydiant gwallt a
harddwch yng Nghymru wedi cydymffurfio â'r rheoliadau llymaf ers iddo ailagor,
ac mae wedi profi, nid yn unig ei fod yn ddiogel o ran Covid-19, ond ei fod yn
un o'r lleoliadau mwyaf diogel o ran trosglwyddiad y feirws. Mae gennym
gyfarpar diogelu personol helaeth, camau hylendid a'r gallu i gydymffurfio â
gofynion olrhain. Ni oedd un o'r sectorau olaf i ailagor ac mae’r sector wedi
dioddef rhai o'r colledion mwyaf o ganlyniad i gyfyngiadau lleol a
chenedlaethol.
Rydym wedi gwneud popeth
sy’n bosibl i gadw’r rheolau ac felly ni ddylem gael ein cosbi drwy ein cau.
Gwybodaeth Ychwanegol
Y camau y mae'r sector wedi'u rhoi ar waith yw:
- hyfforddiant ychwanegol o ran cyfarpar diogelu personol
(gan gynnwys gwisgo a diosg yn ddiogel) a mabwysiadu'r gofynion mwyaf o ran cyfarpar
diogelu personol mewn man nad yw’n lleoliad Covid-19;
- ymgymryd â chamau hylendid traws-halogi a rheoli
heintiau;
- gweithio oriau ychwanegol i sicrhau bod staff a
chleientiaid yn cael digon o le i gadw pellter, er mwyn amddiffyn swyddi.
Nododd Iechyd Cyhoeddus Lloegr mai gwasanaethau cyswllt
agos / gwasanaethau personol yw'r amgylchedd mwyaf diogel fel arfer o ran
trosglwyddiad Covid-19 (eithriad i hyn: carchardai). Yn anffodus, nid yw Iechyd
Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi data tebyg.
Mae'r sector gwallt a harddwch eisoes wedi colli'r cyfnod
masnachu yn yr haf (yr amcangyfrifir sy’n 60 y cant o'r trosiant blynyddol). Y
cyfnod sy'n arwain at y Nadolig yw'r ail gyfnod prysuraf. Er na fydd cynnydd
cystal eleni, byddai cau busnesau gwallt a harddwch ar yr adeg hon yn golygu
bod colli swyddi a chau busnesau ym mis Ionawr yn anochel
Ni ddylid cosbi ein sector a ninnau wedi profi y gallwn
wneud popeth yn iawn. Gallwn gadw pobl yn ddiogel.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl
ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor
Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth
a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/12/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Caerffili
- Dwyrain De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/12/2020