P-05-1069 Arbed y tir fferm a'r caeau gwyrdd yn Cosmeston
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Michael Philip Garland, ar ôl casglu
cyfanswm o 5,272 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Weinidogion Cymru i lynu wrth eu polisïau amgylcheddol a
newid hinsawdd ac at egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)
2015, ac annog Llywodraeth Cymru i dynnu’n ôl eu cynlluniau ar gyfer datblygiad
o 576 o unedau tai ar y caeau a thir fferm arfordirol hardd yn Fferm Cosmeston
Isaf, Cosmeston.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r caeau gwyrdd hyn yn gorwedd mewn ardal o arfordir a thirwedd
ffermio rhwng Môr Hafren, Llwybr Arfordir Cymru a Pharc Gwledig Llynnoedd
Cosmeston (SDdGA), a bydd unrhyw ddatblygiad ar y caeau hyn yn effeithio'n fawr
ar ecoleg a bioamrywiaeth bywyd gwyllt lleol yma ac yn yr ardaloedd cyfagos,
ynghyd â cholli amwynder cefn gwlad a threftadaeth hanesyddol ddiwylliannol
leol yr ardal.
Bydd datblygiad mor fawr yn anghynaliadwy oherwydd y diffyg seilwaith
priffyrdd ac iechyd lleol, a bydd yn gwaethygu tagfeydd traffig a llifogydd
mewn ardaloedd cyfagos.
Dylid cadw'r tir ar gyfer ffermio a busnesau cysylltiedig a fydd, ynghyd
â phrosiectau amwynder cymunedol lleol, yn cadw rhagolygon y dirwedd ar gyfer
llesiant cenedlaethau'r dyfodol.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 13/09/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd nad oedd llawer o gamau
pellach y gallai eu cymryd ar y mater, ac felly cytunodd i gau'r ddeiseb a
diolch i'r deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
15/12/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- De Caerdydd a Phenarth
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 01/12/2020