P-05-1025 Tegwch i fyfyrwyr sy'n sefyll arholiadau yn 2021
P-05-1025 Tegwch i fyfyrwyr sy'n sefyll arholiadau yn
2021
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
National Education Union Cymru, ar ôl casglu cyfanswm o 2,022 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Fel y mae'r Gweinidog
Addysg yn ei gydnabod, mae'r wythnosau diwethaf wedi bod yn eithriadol o anodd
i bobl ifanc sydd eisoes wedi'u rhoi dan anfantais oherwydd Covid-19. Rydym yn
croesawu ymddiheuriad y Gweinidog Addysg. Yn awr, mae'n hanfodol bod
Llywodraeth Cymru yn cymryd camau brys i sicrhau bod myfyrwyr sydd i fod i
sefyll arholiadau safon uwch, Bagloriaeth Cymru a TGAU yn 2021 yn cael eu trin
yn deg ac nad oes unrhyw un dan anfantais.
Croesewir yr adolygiad annibynnol a gynllunnir
yn fawr, ac edrychwn ymlaen at glywed rhagor o fanylion.
Gwybodaeth
Ychwanegol
Yng
Nghymru, gyda lefelau AS, a mwy o ffocws ar waith cwrs, mae gennym sail fwy
cadarn ar gyfer barnu gwaith myfyrwyr. Fodd bynnag, mae'n rhaid i lwfansau gael
eu gwneud ar gyfer yr amser y mae myfyrwyr wedi methu yn yr ysgol neu'r coleg.
Mae'n amlwg i'n haelodau bod angen i Lywodraeth
Cymru wneud newidiadau i arholiadau'r flwyddyn nesaf er mwyn magu hyder bod y
graddau a ddyfernir y mae cyfleoedd pobl ifanc mewn bywyd yn cael eu penderfynu
arnynt, yn cydnabod ac yn gwobrwyo eu cyflawniadau'n briodol.
Credwn hefyd y dylai Llywodraeth Cymru
ganolbwyntio nawr ar:
• Lleihau cynnwys y cwricwlwm a gaiff ei asesu
ar gyfer arholiadau TGAU, Bagloriaeth Cymru a safon uwch yr haf nesaf, drwy
wneud rhai topigau'n ddewisol ar draws pob pwnc.
• Gweithio gydag athrawon, darlithwyr, arweinwyr
ac undebau llafur i ddatblygu system Gymreig o raddau a asesir gan canolfannau
cymedroli rhag ofn y bydd mwy o darfu ar arholiadau yr haf nesaf.
• Defnyddio'r cyfle hwn i ddatblygu system
gadarn sy'n sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu gwobrwyo am eu cyflawniadau ac
nad ydynt yn cael eu dal yn ôl oherwydd eu cefndir.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
09/02/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law ac, o ystyried bod y deisebwyr yn fodlon
â’r penderfyniad i ddysgwyr a oedd i fod i sefyll arholiadau TGAU, UG a Safon
Uwch yn 2021 gael Graddau a bennir gan Ganolfan, cytunodd y Pwyllgor i gau'r
ddeiseb a diolch a llongyfarch y deisebwyr am eu gwaith.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/10/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- De Caerdydd a Phenarth
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/09/2020