P-05-1076 Caniatáu i'r holl Gelfyddydau Perfformio ailagor - cerddoriaeth fyw, dawns, theatrau a neuaddau cyngerdd

P-05-1076 Caniatáu i'r holl Gelfyddydau Perfformio ailagor - cerddoriaeth fyw, dawns, theatrau a neuaddau cyngerdd

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1076 Caniatáu i'r holl Gelfyddydau Perfformio ailagor - cerddoriaeth fyw, dawns, theatrau a neuaddau cyngerdd

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Catherine Tanner, ar ôl casglu cyfanswm o 338 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Pam rydym ni’n gallu eistedd ar awyren am 8 awr, yn gwisgo mwgwd, ond heb gadw unrhyw bellter cymdeithasol... ond allwn ni ddim gwylio cyngerdd o dan yr un amodau?

Pam mae pobl mewn tafarndai / caffis yn gallu eistedd 2m ar wahân, yn siarad heb wisgo masgiau ... ond allwn ni ddim eistedd mewn distawrwydd 2m ar wahân yn gwylio cerddoriaeth fyw?

Pam rydym yn gallu gwylio ffilm yn y sinema, neu wrando ar offeiriad mewn eglwys, ond allwn ni ddim gwylio un cerddor yn perfformio ar ei ben ei hun dan do?

Rhaid i Lywodraeth Cymru roi’r gorau i drin y celfyddydau a cherddoriaeth fyw yn annheg er bod popeth arall wedi ailagor.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Cynhaliwyd Gŵyl Salzburg eleni - dim achosion.

https://bachtrack.com/feature-austria-salzburg-festival-covid-19-september-2020

 

Agorodd Ffilharmonig Berlin eleni.

https://www.berliner-philharmoniker.de/en/ 

 

Ailagorodd neuaddau cyngerdd yn Lloegr eleni ac ailddechreuodd perfformiadau cerddoriaeth fyw.

 

O dan yr Offeryn Statudol sydd mewn grym ar hyn o bryd, bydd neuaddau cyngerdd ar gau tan Chwefror 2021 felly, am y tro cyntaf yn ei hanes, bydd Cymru wedi gwahardd cerddoriaeth fyw am flwyddyn. Cafodd y celfyddydau yng Nghymru eu llethu dros yr haf oherwydd y penderfyniad i wahardd cyngherddau awyr agored hyd yn oed pan oedd bron pob gwlad arall yn Ewrop yn caniatáu hynny.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod gadael i'r celfyddydau agor o dan yr un telerau ag y mae'n caniatáu i ysgolion, siopau a busnesau lletygarwch agor. Mae hyn yn rhagrithiol ac yn hynod annheg. Mae mesurau cadw peller cymdeithasol naill ai’n gweithio, neu dydyn nhw ddim.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 15/12/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Nododd y Pwyllgor y ddeiseb ac amlinelliad y Dirprwy Weinidog o'r camau cychwynnol a gymerwyd, ond a oedwyd yn y cyfamser oherwydd yr amgylchiadau presennol mewn perthynas â throsglwyddo’r Coronafeirws, sydd hefyd wedi effeithio ar letygarwch a sectorau eraill.

 

Yng ngoleuni gwaith craffu Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar yr effaith ar y sector hwn, cytunodd y Pwyllgor i beidio â chymryd camau pellach ei hun ond i ddwyn y ddeiseb i sylw'r Pwyllgor hwnnw a diolch i'r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/12/2020.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/12/2020