P-05-995 Rhyddid i Roi Gwaed
P-05-995 Rhyddid i Roi Gwaed
P-05-995 Rhyddid i Roi Gwaed
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Arron Glyn Bevan-John, ar ôl casglu cyfanswm o 2,726 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Yng
Nghymru, ni chaniateir i ddynion hoyw a deurywiol roi gwaed - oni bai eu bod yn
ymatal rhag cael rhyw am dri mis. Hoffem ymgyrchu dros 'Waed Heb Ragfarn' gan
roi rhyddid i bobl roi gwaed. Mae'r ddeiseb hon yn gofyn i Lywodraeth Cymru gael
gwared ar y cyfnod gohirio tri mis, a chyflwyno dull personol sy'n seiliedig ar
risg i asesu ymddygiadau rhywiol, yn hytrach na phroses or-syml lle caiff pobl
eu grwpio gyda'i gilydd ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol gan eu gwahardd rhag
rhoi gwaed. Dyma'r ffordd orau o sicrhau bod y rhai sy'n awyddus i roi gwaed,
ac sy'n gallu gwneud hynny'n ddiogel, yn gallu.
Mae'n
fater iechyd cyhoeddus ac yn fater anghydraddoldeb. Nid oes gennym ddigon o
waed yn ein banciau gwaed ond eto rydym yn dewis gwahaniaethu yn erbyn grŵp
cyfan o bobl ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol. Dim ond un ateb sydd i brinder
gwaed yn genedlaethol; dileu'r cyfnod gohirio a rhoi'r gorau i wahaniaethu yn
erbyn dynion hoyw a deurywiol
Statws
Yn ei gyfarfod ar
15/12/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a'r cyhoeddiad a wnaed ar 14 Rhagfyr y
bydd asesiad mwy unigol o roddwyr yn cael ei gyflwyno yn haf 2021, gyda'r
canlyniad y bydd dynion LGBTQ+ yn gallu rhoi gwaed. Cytunodd y Pwyllgor i
longyfarch y deisebydd ar y llwyddiant a gafwyd trwy ei ymgyrch ac i gau'r
ddeiseb.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 29/09/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gwyr
- Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Gwelliant
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/08/2020