Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-06-1187 Dylid cynnig brechiad Covid-19 i blant sy'n agored i niwed yn glinigol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod pob bwrdd iechyd bellach yn gwahodd plant 12-17 oed i gael eu brechu, a bod y camau y mae’r ddeiseb yn galw amdanynt bellach yn cael eu cymryd. Cytunodd y Pwyllgor i longyfarch y deisebydd a chau'r ddeiseb.

 

2.2

P-06-1193 Gofynnwch i Lywodraeth y DU am ganiatâd i gynnal refferendwm ar ddychwelyd pwerau datganoledig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau, o ystyried ymateb y Prif Weinidog a rôl y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru i edrych ar bob opsiwn drwy ymgysylltu â phobl Cymru, nad oedd fawr ddim pellach y gallai'r Pwyllgor ei wneud ar hyn o bryd. Gan hynny, cytunodd i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

 

2.3

P-06-1194 Deddfu i roi’r hawl i rydd-ddeiliaid mewn eiddo sydd newydd eu hadeiladu yr hawl i reoli eu hystadau eu hunain

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod y deisebydd yn fodlon ar ymateb y Gweinidog. Gan hynny, cytunodd i ddiolch i’r deisebydd am amlygu’r mater a chau’r ddeiseb.

 

2.4

P-06-1195 Cynnal ymchwiliad annibynnol i farwolaeth Glyn Summers a gweithredoedd Coleg y Cymoedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Roedd y deisebydd wedi cysylltu ag ef yn flaenorol ar y mater hwn.

 

Nododd yr Aelodau ymateb y Gweinidog, gan gytuno ei bod yn anodd gweld llawer o le i symud ymlaen gydag ymchwiliad annibynnol. Fodd bynnag, cytunodd yr Aelodau i drefnu cyfarfod gyda'r deisebydd, i drafod a oes elfennau eraill o'r ymgyrch y gellid eu dwyn ymlaen.

 

2.5

P-06-1197 Gwasanaeth sgrinio’r galon am ddim i bob plentyn rhwng 11 a 35 oed sy'n cynrychioli ei ysgol neu sir mewn chwaraeon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â'r mater hwn yn seiliedig ar gyngor gan y Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol, sydd o’r farn nad yw sgrinio o'r fath yn briodol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at Lywodraeth Cymru i rannu barn y deisebydd a gofyn iddi ystyried cynnal astudiaeth hydredol benodol i Gymru am y rhesymau a amlinellwyd gan y deisebydd.

 

2.6

P-06-1200 Dylid gwneud rhwymo ceffylau yn anghyfreithlon ac yn weithred o greulondeb yng Nghymru, ni waeth a oes gan y ceffylau gysgod neu beidio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod ymateb y Gweinidog yn nodi bod ceffylau yn cael eu diogelu o dan ddeddfwriaeth yng Nghymru ac y dylai pryderon gael eu codi gyda’r awdurdod lleol. Fodd bynnag, er bod ceffylau yn cael eu diogelu o dan ddeddfwriaeth yng Nghymru, nododd y Pwyllgor fod y deisebydd yn mynegi pryder difrifol ynghylch y diffyg gorfodi.

 

Felly, cytunodd y Pwyllgor i ofyn am wybodaeth bellach gan sefydliadau lles anifeiliaid ynghylch yr arfer hwn yng Nghymru ac am unrhyw bryderon o ran gorfodi'r gyfraith.

 

2.7

P-06-1201 Gwahardd saethu rhywogaethau adar sydd mewn perygl difrifol a rhoi’r diogelwch sydd ei angen mor daer arnynt!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n aelod o Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain (BASC).

 

Nododd y Pwyllgor fod y Gweinidog wedi gofyn am ragor o dystiolaeth cyn cymryd unrhyw gamau pellach, megis ystyried dileu rhywogaethau o’r rhestr goch i’w hamddiffyn rhag cael eu saethu. Cytunodd y Pwyllgor, felly, i ysgrifennu at yr RSPB a sefydliadau perthnasol eraill i geisio eu barn ar y mater.

 

2.29

P-06-1202 Dylid gwahardd lladd cywion diwrnod oed yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Roedd y deisebydd wedi cysylltu ag ef yn flaenorol.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu i ofyn am farn arbenigol ac eglurhad pellach ar y mater hwn, cyn penderfynu sut i fwrw ymlaen â’r ddeiseb hon.

 

2.9

P-06-1205 Buddsoddwch mewn amddiffynfeydd llifogydd ar y Tywi yng Nghaerfyrddin gan gynnwys ardal y Cei

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru i gael gwybod a oes cynllun llifogydd yn cael ei ddwyn ymlaen mewn perthynas â'r Tywi.

 

2.10

P-06-1209 Dylid creu rhestr o bob gofalwr di-dâl yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n adnabod y deisebydd.

 

Nododd y Pwyllgor, er bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella ymwybyddiaeth a chefnogaeth, nad yw'r mater o nodi gofalwyr wedi'i ddatrys eto. Felly derbyniodd y Pwyllgor gynnig y Dirprwy Weinidog i adrodd yn ôl yn dilyn trafodaeth bellach gan Grŵp Cynghorir Gweinidog.

 

Roedd yr Aelodau'n am gofnodi eu diolch i'r holl ofalwyr di-dâl am eu gwaith.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-05-954 Deiseb yn galw am ymchwiliad cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru i gam-drin plant hanesyddol ar Ynys Byr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Er y cafwyd rhywfaint o wybodaeth ychwanegol ers mis Rhagfyr 2020, nododd y Pwyllgor nad yw'n ymddangos yn ddigon sylweddol i newid meddwl Llywodraeth Cymru, felly cytunodd o’i anfodd i gau'r ddeiseb.

 

3.2

P-06-1203 Peidiwch â chyflwyno pasbortau brechlyn COVID-19 ar gyfer lleoliadau manwerthu a lletygarwch neu leoliadau eraill

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

O ystyried bod y mater hwn wedi cael ei drafod a'i gymeradwyo yn y Senedd, a'i fod ar waith ers hynny, nododd y Pwyllgor nad oedd unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

3.3

P-05-1003 Mynnu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi’i halogi’n radiolegol yn nyfroedd Cymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ei fod wedi trafod y ddeiseb ar sawl achlysur a bod y ddeiseb hefyd wedi cael ei thrafod yn y Cyfarfod Llawn. Daethpwyd i’r casgliad na ellir dweud yn glir beth arall y gellid ei wneud ar y mater hwn. Gan hynny, cytunodd i ddiolch i’r deisebwyr a chau’r ddeiseb.

 

3.4

P-05-1071 Dylid argraffu rhif cofrestru cerbydau ar becynnau bwyd brys a werthir drwy ffenest y car

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n adnabod y deisebydd.

 

Cytunodd y Pwyllgor nad oedd yn glir pa gamau pellach y gellid eu cymryd ar y mater hwn, gan nodi bod rhai camau gan y Llywodraeth i fynd i'r afael â'r broblem sylfaenol. Gan hynny, cytunodd i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

 

3.5

P-05-1083 Dylid gwarchod lesddeiliaid yng Nghymru rhag talu am waith adfer cladin

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Er i’r Pwyllgor nodi nad oedd y mater hwn wedi cael ei gwblhau’n llawn, cytunodd ei fod wedi cyrraedd man addas i nodi bod gwaith ar y trywydd iawn. Gan hynny, cytunodd i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

 

3.6

P-05-1073 Sefydlu ac adeiladu cangen newydd o Amgueddfa Cymru sy’n canolbwyntio ar ran Cymru mewn trefedigaethedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n adnabod y deisebydd.

 

Nododd y Pwyllgor ymateb y Gweinidogion a'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn, a’r ffaith y bydd camau pellach yn y dyfodol. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ddiolch i'r deisebydd am y gwaith y mae wedi'i wneud i godi ymwybyddiaeth o'r materion, a chau'r ddeiseb.

 

3.7

P-05-1086 Dylid creu Amgueddfa Genedlaethol ar gyfer Hanes a Threftadaeth Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i nodi ymateb y Gweinidog a’r cyllid ar gyfer rolau i hyrwyddo a dathlu hanes pobl Dduon. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Gyfnewidfa Dreftadaeth a Diwylliannol yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau ynghylch cartref parhaol ar gyfer casgliad Tiger Bay, ac unrhyw faterion cysylltiedig.

 

3.8

P-05-1130 Dylai Llywodraeth Cymru ail-brynu ac adnewyddu Coleg Harlech

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod yr adeilad wedi cael ei werthu, a mynegodd y gobaith y gall y perchnogion newydd weithio gydag ymgyrchwyr i ddatblygu'r safle er budd y gymuned. Nododd y Cadeirydd angerdd y deisebwyr a oedd wedi ysgrifennu i gefnogi'r ddeiseb. Gan hynny, cytunodd i ddiolch i’r deisebwyr a chau’r ddeiseb.

 

3.9

P-05-1133 Dylid addasu maes llafur hyfforddiant athrawon i gynnwys Hyfforddiant Trawsnewidiol a Deallusrwydd Emosiynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod y Gweinidog wedi nodi sut y mae'n ceisio cefnogi gweithwyr addysg proffesiynol yn ystod y cyfnod tra heriol hwn, felly cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb.

 

4.

Trafodaeth bellach ar y trothwy llofnodion

Cofnodion:

Ar ôl ystyried yr holl ddata, ac argymhelliad y pwyllgor blaenorol, cytunodd yr Aelodau fod cyfiawnhad dros newid yn y trothwy llofnodion i ddeiseb gael ei thrafod gan y Pwyllgor, ac y dylid newid y trothwy i 250 o lofnodion. Cytunodd yr Aelodau hefyd i newid y trothwy erbyn dechrau'r flwyddyn newydd ym mis Ionawr 2022. Bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes yn argymell y newid perthnasol i Reol Sefydlog 23.4(i)

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 6.

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

6.

Cynllunio Llwyth Gwaith y Pwyllgor yn y Dyfodol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith a chytunodd i wahodd tystion i roi tystiolaeth mewn perthynas â deiseb P-06-1224 Dylunio cynllun peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol ‘Ymadawyr Gofal a Mwy’ sy'n cynnwys amrywiaeth o bobl. Bydd sesiynau tystiolaeth yn cael eu cynnal ar 15 a 29 Tachwedd.