P-06-1193 Gofynnwch i Lywodraeth y DU am ganiatâd i gynnal refferendwm ar ddychwelyd pwerau datganoledig
P-06-1193 Gofynnwch i Lywodraeth y DU am ganiatâd i gynnal refferendwm ar ddychwelyd pwerau datganoledig
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Phillip Easton, ar ôl casglu cyfanswm o
392 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Nid oes gan y Senedd unrhyw bwerau i alw refferendwm o'r fath i ganfod barn
y cyhoedd am sut y caiff pwerau datganoledig eu hamgyffred yng Nghymru. Fodd
bynnag, gall ofyn i Lywodraeth y DU am ganiatâd i gynnal refferendwm ar gyfer
pobl Cymru.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru gynt) wedi bod ar waith ers
1999, yn seiliedig ar refferendwm a gynhaliwyd ym 1997. Gwyddom o'r refferendwm
annibyniaeth diweddar yn yr Alban fod pleidlais o'r fath yn cael ei hystyried
yn un "unwaith mewn cenhedlaeth", ac felly - 24 blynedd yn
ddiweddarach - nid yw ond yn deg ac yn iawn i bobl Cymru gael lleisio eu barn
unwaith eto.
Mae rhai’n credu y dylai Cymru gael mwy o bwerau ac annibyniaeth lawn, ond
mae eraill yn credu y byddai pŵer canolog yn fwy effeithiol - ac yn
gost-effeithiol.
Gyda’r pandemig presennol fel enghraifft, ar adeg agor y ddeiseb hon mae
Cymru ar ei hôl hi o ran cyfradd brechu, yn ogystal â bod â’r ail gyfradd
waethaf o heintiau COVID-19 yn y byd (a adroddwyd yn flaenorol fel y gwaethaf,
oherwydd camgymeriad adrodd yng Nghymru): https://www.walesonline.co.uk/news/politics/wales-second-worst-covid-coronavirus-19506904
O gymharu, byddai dull canolog wedi bod o fudd mawr i Gymru, o ran cymorth
a gweithdrefn.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 01/11/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cytunodd yr Aelodau, o ystyried ymateb y Prif Weinidog a rôl y Comisiwn
Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru i edrych ar bob opsiwn drwy
ymgysylltu â phobl Cymru, nad oedd fawr ddim pellach y gallai'r Pwyllgor ei
wneud ar hyn o bryd. Gan hynny, cytunodd i ddiolch i’r deisebydd a chau’r
ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 01/11/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Cwm Cynnon
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 19/10/2021