P-06-1205 Buddsoddwch mewn amddiffynfeydd llifogydd ar y Tywi yng Nghaerfyrddin gan gynnwys ardal y Cei

P-06-1205 Buddsoddwch mewn amddiffynfeydd llifogydd ar y Tywi yng Nghaerfyrddin gan gynnwys ardal y Cei

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan John Aitken, ar ôl casglu cyfanswm o 740 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mae llifogydd ar y Tywi nifer o weithiau mewn blwyddyn, gan effeithio ar y busnesau sydd ar ei glannau. Mae angen gwneud rhywbeth fel mater o frys, mae’r cyhoedd yn gweld digon o bwyllgorau, ond dim gweithredu.

 

flooded town under blue sky and white clouds

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 10/01/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Nododd y Pwyllgor fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datgan nad yw’n ystyried cynllun llifogydd ar gyfer Afon Tywi yng Nghaerfyrddin ar hyn o bryd, ac felly mae’n ymddangos nad oes llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud ynglŷn â’r mater. Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 01/11/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Llanelli
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/10/2021