P-06-1201 Gwahardd saethu rhywogaethau adar sydd mewn perygl difrifol a rhoi’r diogelwch sydd ei angen mor daer arnynt!

P-06-1201 Gwahardd saethu rhywogaethau adar sydd mewn perygl difrifol a rhoi’r diogelwch sydd ei angen mor daer arnynt!

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Robert Curtis, ar ôl casglu cyfanswm o 122 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mae'n anodd credu y caniateir i rai o'r adar sydd o dan y bygythiad mwyaf gael eu saethu o hyd yng Nghymru, gan gynnwys cyffylogod (woodcocks), hwyaid pengoch (pochard), ceiliogod du (black grouse) a giachod (snipes).

Ar hyn o bryd, mae'r rhywogaethau hyn ar y rhestrau COCH ac AMBER o adar o bryder cadwraethol 4. Mae hynny'n golygu mai dyma’r rhywogaethau sydd â’r flaenoriaeth gadwraethol uchaf yn y DU ar hyn o bryd.

Rydym yn deall yn iawn efallai nad saethu yw prif reswm am eu dirywiad, ond ar yr adeg pan mae angen yr amddiffyniad mwyaf arnynt, gwallgofrwydd yw caniatáu iddynt gael eu saethu.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Rydym yn galw am waharddiad llwyr ar saethu unrhyw adar sydd ar y rhestrau coch ac amber o adar o bryder cadwraethol 4.

Mae arbenigwyr yn casglu tystiolaeth ecolegol a gwyddonol ynghyd ar iechyd rhywogaethau, ond mae'r gyfraith a grwpiau lobïo o blaid gynnau yn dewis anwybyddu'r ffeithiau.

Dim ond tua 200 o geiliogod du sydd ar ôl yng Nghymru. Mae'r rhywogaeth hon sydd ar y rhestr goch yn datgelu’r rhagrith o wario symiau mawr o arian i geisio gwarchod yr adar bregus hyn ond eto caniatáu iddynt gael eu saethu ar yr un pryd.

Gyda'i blu prydferth a'i guddliw, mae'r cyffylog yn rhywogaeth restredig goch arall sy'n cael ei thargedu gan bobl yn saethu ar hyn o bryd, er bod eu niferoedd yn gostwng yn gyflym iawn.

Er bod saethu adar hela yn y DU yn cael ei reoli trwy dymhorau agored a chaeedig, sy'n cyfyngu ar yr amser o'r flwyddyn y gellir saethu adar, rydym yn galw am waharddiad llwyr ar saethu’r adar hyn sydd mewn perygl o ddiflannu. Er bod y digwyddiadau saethu hyn yn draddodiad yn ôl rhai pobl, mae'n bryd newid y gyfraith i ddiogelu ein bywyd gwyllt sydd dan fygythiad.

 

 

low angle photography of flock of silhouette of bird illustration

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 09/05/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac, o gofio bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen am adolygiad o ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â gwarchod bioamrywiaeth ond nad oes ganddi gynlluniau i wneud hynny ar hyn o bryd, cytunodd yr Aelodau i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i nodi barn Heledd Fychan AS, o gofio’r gydnabyddiaeth o’r angen i adolygu deddfwriaeth, y dylai ddigwydd fel rhan o’r ymateb i’r argyfwng hinsawdd, natur a bioamrywiaeth.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 01/11/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Bro Morgannwg
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/10/2021