P-05-1086 Dylid creu Amgueddfa Genedlaethol ar gyfer Hanes a Threftadaeth Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Yasmin Begum, ar ôl casglu cyfanswm o 490
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn deisebu Senedd Cymru i greu
amgueddfa i ddathlu hanes pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru.
Fel rhan o'r sefydliad cenedlaethol, rydym yn gobeithio y bydd yn fodd o
gadw treftadaeth gyfoethog Tiger Bay ac yn gartref i Archif Tiger Bay.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 11/07/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd, er na fu dim
cynnydd o ran dod o hyd i gartref parhaol ar gyfer y casgliad, ei fod gan
Archifau Morgannwg ar hyn o bryd a bod modd i aelodau o’r cyhoedd ei weld o
hyd. Yn sgil hyn, nid oes llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud ar y mater,
felly cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
12/01/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gorllewin Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/01/2021