P-06-1195 Cynnal ymchwiliad annibynnol i farwolaeth Glyn Summers a gweithredoedd Coleg y Cymoedd
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sion William Summers, ar ôl casglu cyfanswm o
834 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Senedd Cymru i gynnal ymchwiliad annibynnol cyhoeddus
llawn, fel y gall teulu Glyn gael eglurder o’r diwedd ynglŷn â’r
digwyddiadau sy’n gysylltiedig â’i farwolaeth drasig bron i 10 mlynedd yn ôl.
Mae gan deulu Glyn reswm i gredu bod staff y coleg wedi rhoi caniatâd i
Glyn yfed alcohol pan oedd yn iau na 18 oed, ac wedi gadael iddo fynd i mewn i
far ar gyfer pobl dros 21 oed heb oruchwyliaeth tra roedd ar daith coleg. Yn
fuan ar ôl hynny cwympodd Glyn o falconi ei westy a bu farw wythnos yn
ddiweddarach o'i anafiadau.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cynhaliodd Coleg y Cymoedd ei ymchwiliad mewnol ei hun ond mae'n gwrthod
rhyddhau hwn i deulu Glyn. Rydym yn cynnig y dylid deddfu i sicrhau nad oes yn
rhaid i unrhyw deulu frwydro gyda gwasanaethau cyhoeddus i ryddhau gwybodaeth
sy'n ymwneud â digwyddiadau angheuol. Mae angen gweithredu i sicrhau bod
prosesau priodol ar waith ar gyfer mynd i’r afael ag argyfyngau a diogelwch
myfyrwyr yng Nghymru.
Mae teulu Glyn yn mynnu ymddiheuriad am gamymddwyn difrifol staff y coleg mewn
cysylltiad â’r digwyddiadau a arweiniodd at farwolaeth drasig Glyn a'r
ymchwiliad na chafodd unrhyw effaith.
Gofynnwn hefyd i Senedd Cymru gyflwyno deddfwriaeth ddigonol ar gyfer herio
gwasanaethau cyhoeddus mewn achosion o gamymddwyn proffesiynol. Bydd hyn yn
helpu i ddiogelu’r bobl sydd fwyaf agored i niwed.
Mae colli Glyn wedi bod yn brofiad dinistriol i'w deulu. Mae’r sefyllfa
wedi’i waethygu gan y ffaith bod y corff addysgol yn gwrthod cymryd cyfrifoldeb
am eu gweithredoedd a dysgu'r gwersi sydd eu hangen i sicrhau na fydd unrhyw
farwolaethau fel hyn yn digwydd eto.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- De Caerdydd a Phenarth
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 19/10/2021