P-06-1197 Gwasanaeth sgrinio'r galon am ddim i bob plentyn rhwng 11 a 35 oed sy'n cynrychioli ei ysgol neu sir mewn chwaraeon

P-06-1197 Gwasanaeth sgrinio'r galon am ddim i bob plentyn rhwng 11 a 35 oed sy'n cynrychioli ei ysgol neu sir mewn chwaraeon

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sharon Owen, ar ôl casglu cyfanswm o 3,092 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mae 12 o bobl o dan 35 oed yn marw’n sydyn bob wythnos yn y DU o gyflwr ar y galon a fyddai’n dod i’r amlwg wrth sgrinio’r galon. Nid yw 80 y cant o'r marwolaethau hyn yn dangos unrhyw symptomau blaenorol.

Mae cyfradd oroesi o 7 y cant ar gyfer ataliad y galon. Ers gwneud sgrinio’r galon yn orfodol yn yr Eidal i bob chwaraewr mewn timau chwaraeon, mae marwolaeth sydyn y galon wedi gostwng 89 y cant.

Bu farw Owen Morris, 13, yn sydyn yn ystod hyfforddiant rygbi yng Nghaerdydd o gyflwr ar ei galon heb ei ddiagnosio, a allai fod wedi dod i’r amlwg wrth sgrinio.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Wrth sgrinio calonnau, mae un o bob 300 sesiwn yn dod o hyd i broblem a allai fygwth bywyd yr unigolyn, ac y gellir ei reoli neu ei drin wedyn.

Stori Owen Morris: https://www.walesonline.co.uk/news/local-news/friends-family-welsh-schoolboy-who-7361218  

 

Cafodd Chris Morse, 33, ei anfon i'r ysbyty ar unwaith ar ôl bod mewn gwasanaeth sgrinio’r galon: "Bydd yn cymryd ychydig funudau ac yn ddi-os gallai arbed eich bywyd, fel yn fy achos i." Dyma stori Chris: https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-50635370 

 

Bu farw Ben McDonald, 25, ar ôl cael ataliad y galon yn Hanner Marathon Caerdydd. Mae mam Ben, Ruth McDonald, eisiau i bobl yng Nghymru gael mynediad at wasanaeth sgrinio’r galon am ddim i helpu i atal achosion o farwolaeth sydyn y galon.

 

Yma yn Calon Heart Screening Wales mae'n rhaid i ni godi ffi am wasanaeth sgrinio’r galon. Fodd bynnag, rydym am gael cyllid gan y llywodraeth i allu cynnig gwasanaeth sgrinio’r galon am ddim i'r rheini rhwng 11 a 35 oed sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon ar gyfer eu hysgol, eu sir neu eu gwlad. Cewch ragor o wybodaeth am ein helusen yma: www.heartscreening.wales.

 

A picture containing indoor

Description automatically generated

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 24/01/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law gan Lywodraeth Cymru a Sefydliad Prydeinig y Galon a chytunwyd nad oes llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud i symud y ddeiseb yn ei blaen.  Nid yw’r canllawiau a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU yn argymell y sgrinio y gelwir amdano yn y ddeiseb. Cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb, a diolch i'r deisebydd am godi’r mater pwysig hwn.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 01/11/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gorllewin Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 19/10/2021