P-06-1200 Dylid gwneud rhwymo ceffylau yn anghyfreithlon ac yn weithred o greulondeb yng Nghymru, ni waeth a oes gan y ceffylau gysgod neu beidio

P-06-1200 Dylid gwneud rhwymo ceffylau yn anghyfreithlon ac yn weithred o greulondeb yng Nghymru, ni waeth a oes gan y ceffylau gysgod neu beidio

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon, ar ôl casglu cyfanswm o 4,637 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Ar hyn o bryd, nid yw rhwymo ceffylau yn anghyfreithlon yng Nghymru. Mae pawb siŵr o fod wedi gweld ceffyl hyfryd yn rhwym wrth gadwyn fer yn ymyl y ffordd, heb gysgod rhag y tywydd garw.

 

Ymddengys nad oes gan yr RSPCA bŵer i wneud dim am y peth! Pe bai ci wedi cael ei glymu yn ymyl ffordd brysur, byddai dicter. Mae'r ddau anifail yn bwysig!

 

Rhaid pasio deddfau i atal y creulondeb ofnadwy hwn i greaduriaid mor sensitif! Nid oes gan yr anifeiliaid hyn unrhyw ansawdd bywyd; mae'n sgandal llwyr.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Creodd yr elusen les HorseWorld ymgyrch #BreaktheChain gyda'r gobaith o newid y gyfraith. Er i’r arfer hwn gael ei alw’n greulon a pheryglus, mae’n aros yn gyfreithiol.

 

Ewch i'r wefan www.BreakTheChain.org.uk am ragor o wybodaeth.

 

Byddwn mor falch o Gymru pe bae’n arwain y ffordd i atal yr arfer ofnadwy hwn o'r diwedd. Mae'r RSPCA hefyd yn gwrthwynebu'r arfer, gan ddweud ei fod yn peryglu lles anifeiliaid mewn sawl ffordd.

 

Mae cod ymarfer Defra er lles ceffylau a chod ymarfer Llywodraeth Cymru yn nodi nad yw rhwymo ceffylau yn ddull addas ar gyfer rheoli’r anifeiliaid. Rhaid gofyn pam, felly, nad yw'n anghyfreithlon?

 

brown and white horse

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 07/03/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Nododd y Pwyllgor fod y Gweinidog wedi rhoi mwy o fanylion am sut y mae’n bwriadu bwrw ymlaen â'i hymrwymiadau lles anifeiliaid, gan gynnwys gwella hyfforddiant a sgiliau swyddogion gorfodi awdurdodau lleol a bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag asiantaethau gorfodi a sefydliadau lles anifeiliaid ac yn bwriadu ymgynghori ar eu blaenoriaethau. Felly, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 01/11/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gogledd Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 25/10/2021