P-06-1194 Deddfu i roi'r hawl i rydd-ddeiliaid mewn eiddo sydd newydd eu hadeiladu yr hawl i reoli eu hystadau eu hunain

P-06-1194 Deddfu i roi'r hawl i rydd-ddeiliaid mewn eiddo sydd newydd eu hadeiladu yr hawl i reoli eu hystadau eu hunain

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Peter Black, ar ôl casglu cyfanswm o 242 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mae Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 yn rhoi’r hawl i lesddeiliaid gaffael swyddogaethau rheoli landlord drwy drosglwyddo i gwmni a sefydlir ganddynt. Nid yw’r hawl hwn yn gymwys i berchnogion rhydd-ddeiliad ar ddatblygiadau newydd, sy’n gorfod talu tâl gwasanaeth i gwmni a benodir i reoli eu hystadau. O ganlyniad nid oes ganddynt unrhyw reolaeth dros swm eu tâl gwasanaeth na materion cynnal a chadw. Mae angen diwygio’r drefn er mwyn diogelu perchnogion tai rhag taliadau gormodol a rheolaeth wael.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Y term a ddefnyddir yw ‘fleeceholding’, a cheir rhagor o wybodaeth yma: https://hoa.org.uk/2016/11/problems-facing-freeholders-new-developments/ 

ac yma: https://www.propertyweek.com/legal-and-professional/will-the-freehold-properties-bill-put-an-end-to-fleeceholding/5101043.article.

 

A row of houses

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 01/11/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Nododd y Pwyllgor fod y deisebydd yn fodlon ar ymateb y Gweinidog. Gan hynny, cytunodd i ddiolch i’r deisebydd am amlygu’r mater a chau’r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 01/11/2021.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Dwyrain Abertawe
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 19/10/2021