Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 23/01/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
13.30 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Roedd Sioned Williams AS yn bresennol fel dirprwy ar ran
Peredur Owen Griffiths AS tan eitem 6, a ddaeth wedyn i weddill y cyfarfod. |
|
13.30 - 14.30 |
Y Bil Bwyd (Cymru): Sesiwn dystiolaeth Lesley Griffiths
AS, Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd David
Lloyd-Thomas, Pennaeth Uned Strategaeth a Pholisi Bwyd, Llywodraeth Cymru Claire
Butterworth, Cyfreithwraig, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Materion
Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. |
|
14.30 – 14.35 |
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. Dogfennau ategol: |
|
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol |
||
SL(6)309 - Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Mewnforio Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Risg Uchel Nad Ydynt yn Dod o Anifeiliaid) (Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793) (Cymru) 2022 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
14.35 – 14.40 |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. |
|
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol |
||
SL(6)308 - Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 4) 2022 Rheoliadau (Saesneg
yn unig) Memorandwm
Esboniadol (Saesneg yn unig) Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)308 - Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 5) 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
14.40 – 14.45 |
Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol |
|
SL(6)301 - Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
14.45 – 14.50 |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cyfarfod o’r Cyngor Gweinidogion Addysg Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||
Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Fforwm Masnach Gweinidogol Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||
Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Grŵp Rhyngweinidogol Busnes a Diwydiant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog. |
||
Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd a Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Diwygiadau Amrywiol) 2023: Gohebiaeth a Datganiad Ysgrifenedig gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, a gohebiaeth rhwng y Dirprwy Weinidog a’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a'r Datganiad Ysgrifenedig
gan y Dirprwy Weinidog a gohebiaeth rhwng y Dirprwy Weinidog a'r Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol. |
||
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol. |
||
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Grŵp Rhyngweinidogol i drafod Etholiadau a Chofrestru Cofnodion: Nododd y Pwyllgor lythyr a gafodd ychydig cyn y cyfarfod,
mewn perthynas â chyfarfod o’r Grŵp Rhyngweinidogol ar
gyfer Etholiadau a Chofrestru a gynhelir ar 25 Ionawr 2023. |
||
14.50 – 14.55 |
Papurau i'w nodi |
|
Gohebiaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a'r Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol: Cysylltiadau rhynglywodraethol. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan yr Ysgrifennydd
Gwladol. |
||
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 3) ar Fil Banc Seilwaith y DU: Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd,
yr Amgylchedd a Seilwaith. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Gorchymyn Newid Hinsawdd (Nwyon Tŷ Gwydr wedi’u Targedu) 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog a chytunodd i
dynnu sylw’r Llywydd ato. |
||
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Papur briffio ar y goblygiadau i ddatganoli Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol at
holl Aelodau Tŷ'r Arglwyddi. |
||
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cywiriadau i Is-ddeddfwriaeth Gymreig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda'r Cwnsler Cyffredinol
a chytunodd i ysgrifennu i ofyn am eglurhad pellach. |
||
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol. |
||
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol. |
||
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol. |
||
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a
chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ofyn am ragor o wybodaeth, ac i
anfon copi o’r ohebiaeth at y Pwyllgor Busnes. |
||
Gohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Busnes. |
||
Gohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes: Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Pwyllgor Busnes. |
||
Gohebiaeth gan Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Llywodraeth Cymru yn rhoi cydsyniad ar gyfer is-ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes: Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Busnes. |
||
14.55 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig.
|
|
14.55 – 15.10 |
Y Bil Bwyd (Cymru): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd gan y
Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd |
|
15.10 – 15.55 |
Y Bil Amaethyddiaeth (Cymru): Adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd
arno. |
|
15.55 – 16.05 |
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memoranda Rhif 3 a Rhif 4) ar y Bil Diogelwch Ar-lein: Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd
arno. |
|
16.05 – 16.15 |
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol a
chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
16.15 – 16.25 |
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol (Memorandwm Rhif 3 a Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Caffael Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol (Memoranda Rhif 3 a Rhif 4) ar y Bil Caffael, a chytunodd i ysgrifennu
at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ofyn am ragor o eglurhad. |
|
16.25 – 16.35 |
Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru: adroddiad interim Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad. |
|
16.35 – 16.45 |
Adroddiad monitro Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr adroddiad monitro. |