Cydsyniad deddfwriaethol: Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol
Cafodd Bil Troseddau
Economaidd a Thryloywder Corfforaethol (y Bil) ei gyflwyno yn Nhŷ’r Cyffredin ar 22 Medi 2022.
Mae teitl hir y Bil yn nodi ei fod yn Fil i wneud darpariaeth ynghylch
troseddau economaidd a thryloywder corfforaethol; i wneud darpariaeth bellach
ynghylch cwmnïau, partneriaethau cyfyngedig a mathau eraill o endid
corfforaethol; ac i wneud darpariaeth ynghylch cofrestru endidau tramor.
Mae’r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29
(PDF 599KB). Mae hyn yn golygu bod Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad
Senedd Cymru i ddeddfu ar fater sydd o fewn cymhwysedd y Senedd.
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Ionawr 2023
Ar 3 Ionawr 2023 gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 163 KB).
Cytunodd
(PDF 44KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol ar y Bil Caffael ei drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn
9 Mawrth 2023.
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Tachwedd 2022
Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 143KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 29
Tachwedd 2022.
Mae'r Pwyllgor
Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor
yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno adroddiad
arno erbyn 2
Mawrth 2023 (PDF 49.2KB).
Ar 10 Ionawr 2023, cytunodd (PDF
44 KB) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r sef 9 Mawrth 2023.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/10/2022