Cydsyniad deddfwriaethol: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
Cafodd Bil Cyfraith yr UE
a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) (y Bil) ei gyflwyno yn Nhŷ’r Cyffredin ar 22 Medi 2022.
Mae teitl hir y Bil yn nodi ei fod yn Fil sy’n dirymu cyfraith benodol yr
UE a ddargedwir; i wneud darpariaeth sy’n ymwneud â dehongli cyfraith yr UE a
ddargedwir a’i pherthynas â chyfraith arall; i wneud darpariaeth ynghylch
pwerau i addasu cyfraith yr UE a ddargedwir; i alluogi ailddatgan, disodli neu
ddiweddaru rhai o gyfreithiau’r UE a ddargedwir; galluogi diweddaru
ailddatganiadau a darpariaeth amnewid; i ddileu'r targed effaith busnes; ac at
ddibenion cysylltiedig.
Mae’r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Mae hyn yn golygu bod Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad
Senedd Cymru i ddeddfu ar fater sydd o fewn cymhwysedd y Senedd.
Cafodd Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir
(Dirymu a Diwygio) ei
wrthod yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Mawrth 2023.
Cafodd Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Cyfraith yr UE a
Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) ei
wrthod yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Mehefin 2023.
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Mai
2023
Ar 26 Mai 2023 gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 246 KB).
Ysgrifennodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad at y Cwnsler
Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar 16
Mai 2023 (PDF 117 KB). Cafodd y Pwyllgor ymateb ar 2
Mehefin 2023 (PDF 252 KB).
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol –
Mawrth 2023
Ar 10 Mawrth 2023 gosododd Llywodraeth
Cymru Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
(PDF 186 KB).
Cytunodd
(PDF 39KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol ar y Bil Cyfraith yr UE Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) ei drafod ac y
gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 27 Mawrth 2023.
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol –
Chwefror 2023
Ar 6 Chwefror 2023 gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
(PDF 142 KB).
Cytunodd (PDF 44KB)
y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil
Cyfraith yr UE Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) ei drafod ac y gwneir adroddiad
arno, i’r Senedd, erbyn 13 Mawrth 2023.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
1285KB) ar 22 Chwefror 2023. Ymatebodd Llywodraeth
Cymru i’r adroddiad ar 9 Mawrth 2023.
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
– Rhagfyr 2022
Ar 21 Rhagfyr 2022 gosododd Llywodraeth
Cymru Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
(PDF 133 KB).
Cytunodd
(PDF 43.6 KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol ar y Bil Cyfraith yr UE Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) ei drafod ac y
gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 2 Mawrth 2023.
Ar 7 Chwefror 2023, cytunodd (PDF 44KB)
y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r sef 13 Mawrth 2023.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
1285KB) ar 22 Chwefror 2023. Ymatebodd
Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 9 Mawrth 2023.
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Tachwedd
2022
Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 305KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 3
Tachwedd 2022.
Mae'r Pwyllgor
Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno adroddiad
arno erbyn 9
Chwefror 2023.
Ar 10 Ionawr 2023, cytunodd (PDF
43.6 KB) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r sef 2 Mawrth 2023.
Ar 7 Chwefror 2023, cytunodd (PDF
44KB) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r sef 13 Mawrth 2023.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
1285KB) ar 22 Chwefror 2023. Ymatebodd
Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 9 Mawrth 2023.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/11/2022
Dogfennau
- Llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, 27 Mehefin 2023
PDF 140 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd a Gweinidog yr Economi at Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 27 Mawrth 2023 [Saesneg yn unig]
PDF 247 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Llywydd a Chadeirydd y Pwyllgor Busnes, 27 Ionawr 2023
PDF 375 KB
- Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, 19 Ionawr 2023
PDF 258 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, a’r Gweinidog Diwydiant a Diogelwch Buddsoddi, 21 Rhagfyr 2022
PDF 94 KB
- Llythyr gan Dr Gravey a Dr Whitten at y cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Cyfansoddiad, 15 Tachwedd 2022 [Saesneg yn unig]
- Llythyr gan NFU Cymru at y cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Cyfansoddiad, 16 Tachwedd 2022 [Saesneg yn unig]
- Llythyr gan Gonffederasiwn GIG Cymru at y cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Cyfansoddiad, 17 Tachwedd 2022
- Llythyr gan yr RSPCA at y cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Cyfansoddiad , 17 Tachwedd 2022 [Saesneg yn unig]
- Llythyr gan UK Environmental Law Association at y cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Cyfansoddiad, 17 Tachwedd 2022 [Saesneg yn unig]
- Llythyr gan y Public Law Project at y cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Cyfansoddiad, 18 Tachwedd 2022 [Saesneg un unig]
- Llythyr gan Ffederasiwn Bwyd a Diod Cymru at y cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Cyfansoddiad, 18 Tachwedd 2022 [Saesneg yn unig]
- Llythyr gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd at y cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Cyfansoddiad, 18 Tachwedd 2022
- Llythyr gan Gohebiaeth gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol at y cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Cyfansoddiad, 18 Tachwedd 2022 [Saesneg yn unig]
- Llythyr gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru at y cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Cyfansoddiad, 18 Tachwedd 2022
PDF 286 KB
- Llythyr gan Gyswllt Amgylchedd Cymru at y cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Cyfansoddiad, 18 Tachwedd 2022 [Saesneg yn unig]
- Llythyr gan yr Athro Jo Hunt at y cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Cyfansoddiad, 21 Tachwedd 2022 [Saesneg yn unig]
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Cyfansoddiad at rhanddeiliaid, 12 Hydref 2022
PDF 111 KB