Bil Bwyd (Cymru)

Bil Bwyd (Cymru)

Roedd Bil Aelod o'r Senedd, a gyflwynwyd gan Peter Fox AS yn llwyddiannus mewn pleidlais ddeddfwriaethol ar 22 Medi 2021. Rhoddwyd caniatâd i Peter Fox AS fwrw ymlaen â'i Fil gan y Senedd ar 17 Tachwedd 2021.

Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio’r Bil at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.

 

Gwybodaeth am y Bil

 

Diben datganedig y Bil yw sefydlu system fwyd fwy cynaliadwy yng Nghymru. Mae’r Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer:

>>>> 

>>>sefydlu 'Nodau Bwyd' i helpu i gyflawni prif amcan polisi'r Bil;

>>>ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gymryd camau rhesymol i hyrwyddo’r nodau bwyd;

>>>sefydlu Comisiwn Bwyd Cymru sydd â'r nod o hyrwyddo a hwyluso datblygiad y nodau bwyd gan gyrff cyhoeddus, ac i sicrhau y cyflawnir hwy;

>>>ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi strategaeth fwyd genedlaethol;

>>>ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus (ac eithrio Gweinidogion Cymru) wneud a chyhoeddi cynllun bwyd lleol

<<<< 

 

Mae rhagor o fanylion am y Bil i'w gweld yn y Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd ag ef.

 

Cyfnod presennol

BillStageRejected

 

Cynhaliwyd dadl ar yr egwyddorion cyffredinol ar 24 Mai 2023. Gwrthodwyd y cynnig i dderbyn yr egwyddorion cyffredinol a gwrthodwyd y Bil gan y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.14

 

Cofnod o Daith y Bil yn Senedd Cymru

Mae'r tabl a ganlyn yn nodi'r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy'r Senedd.

 

¬¬¬Cyfnod 1 (12 Rhagfyr 2022 – 24 Mai 2023)

Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mai 2023. Gwrthodwyd y cynnig i gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.

 

Crynodeb Bil (PDF 414KB)

Crynodeb Bil - ffeithlun

Ymatebion ysgrifenedig i'r ymgynghoriad

Geirfa Ddwyieithog (PDF 92KB)

 

 

Dyddiadau'r Pwyllgor

Bydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn trafod y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:

 

Dyddiad ac Agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.tv

14 Rhagfyr 2022

Trafod sut y bydd y Pwyllgor yn ymdrin â gwaith craffu Cyfnod 1 (Preifat)

Preifat

 

19 Ionawr 2023

Sesiynau tystiolaeth

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

25 Ionawr 2023

Sesiynau tystiolaeth

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

16 Chwefror 2023

Sesiynau tystiolaeth

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

1 Mawrth 2023

Sesiynau tystiolaeth

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

8 Mawrth 2023

Sesiynau tystiolaeth

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

 

Gosododd y Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ei adroddiad ar 12 Mai 2023 (PDF 1,646KB).

 

Cafodd y Pwyllgor ymateb (PDF 172KB) gan Peter Fox AS, yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil, ar 19 Mai 2023.

Derbyniodd y Pwyllgor ymateb (PDF 277KB) gan Lywodraeth Cymru ar 14 Gorffennaf 2023.

 

Bydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn trafod y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:

Dyddiad ac Agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.tv

23 Ionawr 2023

Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

30 Ionawr 2023

Sesiwn dystiolaeth – Peter Fox AS

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

 

Gosododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad ar 11 May 2023 (PDF 1483KB).

 

Cafodd y Pwyllgor ymateb (PDF 156KB) gan Peter Fox AS, yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil, ar 19 Mai 2023.

 

 

Bydd y Pwyllgor Cyllid yn trafod y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:

 

Dyddiad ac Agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.tv

9 Chewfror 2023

Goblygiadau ariannol y Bil Bwyd (Cymru): Sesiwn dystiolaeth

 

Papur Tystiolaeth y Gweinidog

 

Llythyr gan y Gweinidog

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

 

Gosododd y Pwyllgor Cyllid ei adroddiad ar 12 Mai 2023 (PDF 237KB).

 

Cafodd y Pwyllgor ymateb (PDF 156KB) gan Peter Fox AS, yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil, ar 19 Mai 2023.

 

Derbyniodd y Pwyllgor ymateb (PDF, 105KB) gan Lywodraeth Cymru ar 15 Tachwedd 2023.

 

Gohebiaeth

>>>> 

>>>Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – 14 Gorffennaf 2023 (PDF 277KB)

>>>Llythyr oddi wrth Peter Fox AS at y Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig - 19 Mai 2023 (PDF 285KB)

>>>Llythyr oddi wrth Peter Fox AS at y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – 4 Mai 2023 (PDF 154KB)

>>>Llythyr oddi wrth y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid - 20 Ebrill 2023 (PDF 237KB)

>>>Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – 16 Mawrth 2023 (PDF 234KB)

>>>Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd - 28 Chwefror 2023 (PDF 252KB)

>>>Llythyr at y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd - 8 Chwefror 2023 (PDF 78KB)

>>>Llythyr gan Peter Fox AS at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - 25 Ionawr 2023 (220KB)

>>>Llythyr at y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – 16 Rhagfyr 2022 (PDF 90KB)

<<<< 

 

zzz

¬¬¬Cyflwyno’r Bil (12 Rhagfyr 2022)

 

Bil Bwyd (Cymru) (PDF 190KB), fel y’i cyflwynwyd

 

Memorandwm Esboniadol (PDF 1000KB)

 

Datganiad y Llywydd: 12 Rhagfyr 2022 (PDF 168KB)

 

Datganiad o Fwriad y Polisi (PDF 90KB)

zzz

 

Gwybodaeth gyswllt

Clerc: Robert Donovan

Ffôn: 0300 200 6565

 

Cyfeiriad post:

Senedd Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1SN

 

Cyfeiriad e-bost: SeneddEconomi@senedd.cymru

 

Math o fusnes: Bil

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Gwrthodwyd

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/12/2022

Dogfennau

Ymgynghoriadau