Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/01/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

13.30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Roedd Sioned Williams AS yn bresennol fel dirprwy ar ran Peredur Owen Griffiths AS tan eitem 6, a ddaeth wedyn i weddill y cyfarfod.

 

13.30 - 14.30

2.

Y Bil Bwyd (Cymru): Sesiwn dystiolaeth

Lesley Griffiths AS, Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

David Lloyd-Thomas, Pennaeth Uned Strategaeth a Pholisi Bwyd,  Llywodraeth Cymru

Claire Butterworth, Cyfreithwraig, Llywodraeth Cymru

 

Bil Bwyd (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

Datganiad o Fwriad y Polisi

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

 

14.30 – 14.35

3.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

Dogfennau ategol:

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol

 

 

3.1

SL(6)309 - Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Mewnforio Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Risg Uchel Nad Ydynt yn Dod o Anifeiliaid) (Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793) (Cymru) 2022

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

14.35 – 14.40

4.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol

 

 

4.1

SL(6)308 - Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 4) 2022

Rheoliadau (Saesneg yn unig)

Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

4.2

SL(6)308 - Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 5) 2022

Rheoliadau (Saesneg yn unig)

Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.

 

14.40 – 14.45

5.

Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol

5.1

SL(6)301 - Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

14.45 – 14.50

6.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

6.1

Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cyfarfod o’r Cyngor Gweinidogion Addysg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.

 

6.2

Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Fforwm Masnach Gweinidogol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.

 

6.3

Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Grŵp Rhyngweinidogol Busnes a Diwydiant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog.

 

6.4

Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd a Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Diwygiadau Amrywiol) 2023: Gohebiaeth a Datganiad Ysgrifenedig gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, a gohebiaeth rhwng y Dirprwy Weinidog a’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a'r Datganiad Ysgrifenedig gan y Dirprwy Weinidog a gohebiaeth rhwng y Dirprwy Weinidog a'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

6.5

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol.

 

16.

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Grŵp Rhyngweinidogol i drafod Etholiadau a Chofrestru

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor lythyr a gafodd ychydig cyn y cyfarfod, mewn perthynas â chyfarfod o’r Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Etholiadau a Chofrestru a gynhelir ar 25 Ionawr 2023.

 

 

14.50 – 14.55

7.

Papurau i'w nodi

7.1

Gohebiaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a'r Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol: Cysylltiadau rhynglywodraethol.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

 

7.2

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 3) ar Fil Banc Seilwaith y DU: Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.

 

7.3

Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Gorchymyn Newid Hinsawdd (Nwyon Tŷ Gwydr wedi’u Targedu) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog a chytunodd i dynnu sylw’r Llywydd ato.

 

7.4

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Papur briffio ar y goblygiadau i ddatganoli

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol at holl Aelodau Tŷ'r Arglwyddi.

 

7.5

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cywiriadau i Is-ddeddfwriaeth Gymreig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda'r Cwnsler Cyffredinol a chytunodd i ysgrifennu i ofyn am eglurhad pellach.

 

7.6

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol.

 

7.7

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol.

 

7.8

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol.

 

7.9

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ofyn am ragor o wybodaeth, ac i anfon copi o’r ohebiaeth at y Pwyllgor Busnes.

 

7.10

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Busnes.

 

7.11

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes: Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Pwyllgor Busnes.

 

7.12

Gohebiaeth gan Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Llywodraeth Cymru yn rhoi cydsyniad ar gyfer is-ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.

 

7.13

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes: Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Busnes.

 

14.55

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig. 

 

14.55 – 15.10

9.

Y Bil Bwyd (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

 

15.10 – 15.55

10.

Y Bil Amaethyddiaeth (Cymru): Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.

 

15.55 – 16.05

11.

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memoranda Rhif 3 a Rhif 4) ar y Bil Diogelwch Ar-lein: Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.

 

16.05 – 16.15

12.

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

16.15 – 16.25

13.

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol (Memorandwm Rhif 3 a Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Caffael

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memoranda Rhif 3 a Rhif 4) ar y Bil Caffael, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ofyn am ragor o eglurhad.

 

16.25 – 16.35

14.

Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru: adroddiad interim

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad.

 

16.35 – 16.45

15.

Adroddiad monitro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr adroddiad monitro.