Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Steve George  Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

2.

Trafod sesiwn dystiolaeth 11 Tachwedd 2013

2.1

P-04-466 Argyfwng Meddygol – Atal cyflwyno gwasanaeth iechyd o safon is yng ngogledd Cymru

Dogfennau ategol:

2.2

P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau'r sesiynau tystiolaeth ar 11 Tachwedd a chytunwyd i ofyn i'r Bwrdd Iechyd Lleol a oedd wedi gwneud Asesiad o Effaith y Traffig, a'r hyn y gallai hynny ei ddangos o ran trin cleifion o fewn yr “awr aur”; ac ystyried sylwadau ysgrifenedig pellach y deisebwyr.

 

(09.05 - 09.10)

2.3

P-04-343 Atal dinistrio mwynderau ar dir comin - Ynys Môn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau'r sesiwn dystiolaeth ar 11 Tachwedd a chytunwyd i:

 

·         ysgrifennu at Gomisiynydd Heddlu Gogledd Cymru a'r Prif Gwnstabl i ofyn eu barn am y gweithgaredd anghyfreithlon honedig ar y tir comin;

·         ysgrifennu at Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru i gael eu barn am y materion a godwyd gan y deisebwyr;

·         gofyn i Bwyllgor yr Amgylchedd ystyried goblygiadau'r ddeiseb wrth drafod deddfwriaeth sydd ar y gweill; ac

·         ailddosbarthu’r nodyn briffio cyfreithiol sy'n rhoi crynodeb o'r mater ymhlith yr Aelodau.

 

 

(09.10 - 09.15)

2.4

P-04-496 Ysgolion Pob Oed

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau'r sesiwn dystiolaeth a chytunwyd i:

 

·         aros am farn y deisebwyr am yr ohebiaeth flaenorol gan y Gweinidog; ac

·         ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r awdurdodau esgobaethol i ofyn eu barn am y ddeiseb.

 

(09.15 - 09.20)

2.5

P-04-432 - Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a gafwyd ar 11 Tachwedd, a chytunwyd i roi crynodeb o drafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb, ac ymhelaethu ar y materion ehangach, gan gynnwys rôl y Gwasanaeth Gyrfaoedd mewn ysgolion.

 

(09.20 - 09.35)

3.

Deisebau newydd

3.1

P-04-514 Dylid adeiladu gorsaf bŵer sy'n defnyddio glo glân o Gymru a/neu gorsaf ynni adnewyddadwy yn hytrach na gorsaf niwclear arfaethedig Wylfa B ar Ynys Môn.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd i ofyn ei farn.

 

3.2

P-04-515 Darparu rhagor o arian ar gyfer Gwasanaethau Bysiau Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn ei barn am y ddeiseb; a

·         grwpio'r ddeiseb gyda deisebau eraill sy'n ymwneud â gwasanaethau bysiau yng Nghymru, a gwneud ymchwiliad byr i'r problemau. 

 

3.3

P-04-516 Gwneud gwyddor gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o addysg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn ei farn am y ddeiseb.

 

3.4

P-04-517 Atal Llywodraeth Cymru rhag cyflwyno system i fonitro plant sy’n dewis cael eu haddysgu gartref o dan wedd diogelu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Addysg a Sgiliau; a’r

·         Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

 

i ofyn eu barn am y ddeiseb, gan gynnwys sut y mae Gweinidogion wedi asesu eu dyletswyddau mewn perthynas â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

 

 

3.5

P-04-518 Ciniawau ysgol am ddim yn gyffredinol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Addysg a Sgiliau; a

·         Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 

 

i ofyn eu barn am y ddeiseb.

 

 

(09.35 - 11.00)

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

4.1

P-04-483 Polisi Cymraeg Clir / Plain English ar gyfer pob cyfathrebiad y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i lunio crynodeb byr o ymatebion y rhanddeiliaid.

 

 

4.2

P-03-315 Deiseb i gael croesfan newydd dros Afon Dyfi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ofyn i'r Gweinidog, yng ngoleuni ei datganiad yn ddiweddar, beth yw'r amserlen ar gyfer yr astudiaeth; a

·         gofyn i'r deisebwyr eto a oes ganddynt unrhyw ymateb i ddatganiad y Gweinidog.

 

4.3

P-04-319 Deiseb ynghylch Traffig yn y Drenewydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog am wybodaeth am y datblygiadau diweddaraf wrth i'r camau gweithredu a awgrymwyd gan y grŵp rhanddeiliaid gael eu datblygu gan swyddogion y Gweinidog.

 

4.4

P-04-393 Grŵp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog am wybodaeth am ganlyniadau'r gwaith o fonitro traffig yn y 12 mis nesaf, ac a oes unrhyw ddatblygiadau pellach gyda'r Asiantaeth Briffyrdd yn Lloegr.

 

4.5

P-04-446 Rhyddhad Ardrethi Busnes i siopau elusen yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog gan rannu gohebiaeth ddiweddaraf y deisebwyr, a gofyn am gael y wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniadau ei hymholiadau i Lywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill.

 

4.6

P-04-468 Pryderon am Ddiogelwch Ffordd A48 Cas-gwent

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb pellach, a gofyn am gael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau; a

·         gofyn i'r deisebwyr eto a oes ganddynt unrhyw ymateb i ddatganiad y Gweinidog.

 

4.7

P-04-475 Yn eisiau – Bysiau i Feirionnydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • grwpio'r ddeiseb gyda deisebau eraill sy'n ymwneud â gwasanaethau bysiau yng Nghymru, a gofyn i Glerc y Pwyllgor gynnig awgrymiadau am ymchwiliad byr yn canolbwyntio ar y problemau; a 
  • gofyn i'r Pwyllgor Menter a Busnes drafod a oes lle i'r mater hwn ar ei flaenraglen waith.

 

 

4.8

P-04-508 Rhaid adfer yr Olygfa o Landyfi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgîl ymateb y Gweinidog a nododd yn glir nad oes modd gostwng uchder y wal. 

 

 

4.9

P-04-362 Gwasanaethau Ambiwlans yn Nhrefynwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod y camau gweithredu ar y mater bellach yn nwylo'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

4.10

P-04-448 Gwella gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, yn mynegi pryder ynghylch y diffyg ymateb, gan anfon copi at y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

4.11

P-04-452 Hawliau Cyfartal i Bobl Ifanc Tiwb-borthedig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         nodi'r sefyllfa a gofyn i'r Gweinidog am y wybodaeth ddiweddaraf, yn dilyn Cyfnod 2 y Bil, ynghylch a yw'r newidiadau a wnaed wedi datrys y sefyllfa; a

·         gofyn i'r deisebydd am ei sylwadau ynghylch llythyr y Gweinidog.

 

4.12

P-04-457 Yr Ymgyrch Caplaniaeth Elusennol

Dogfennau ategol:

4.13

P-04-474 Cefnogaeth i wasanaethau caplaniaeth y GIG

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y deisebau a chytunodd i:

 

·         Lunio llythyr drafft ar gyfer y Gweinidog yn dwyn ynghyd yr amryfal faterion sydd wedi codi wrth drafod y ddeiseb, gan awgrymu materion i'r Gweinidog eu trafod ymhellach; a

·         thrafod cau'r ddeiseb pan fydd hyn wedi'i wneud.

 

 

4.14

P-04-463 Lleihau Lefelau Halen mewn Bwyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         gau'r ddeiseb yng ngoleuni ymateb y Gweinidog, a nododd y camau gweithredu sy'n cael eu cymryd ac sy'n bosibl ar hyn o bryd; a

·         thynnu sylw'r Gweinidog at gais y deisebydd am gyfarfod i fynd i'r afael â'r materion hyn.

 

 

4.15

P-04-490 Meddyginiaeth Gwrth-retrofeirysol yng Nghaerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog, yn gofyn ei farn am sylwadau'r deisebydd.  Yn benodol:

 

·         i ba raddau y caiff clinigwyr wyro o'r canllawiau;

·         sut y cyfrifwyd yr amcangyfrif o £15-50 miliwn o arbedion, a'r rheswm am yr amrywiaeth eang yn y ddau ffigur; a

·         gofyn i'r Gweinidog a yw'r canllawiau'n cael eu defnyddio yn y GIG yn rhannau eraill y DU.

 

Hefyd, cytunodd y Pwyllgor, yng ngoleuni'r cyfeiriad yn llythyr y Bwrdd Iechyd Lleol, i ysgrifennu at y Bwrdd Iechyd Lleol yn gofyn am ragor o wybodaeth am yr asesiad a wnaed gan yr Ymgynghorwyr Iechyd Rhywiol o'r problemau a wynebwyd gan gleifion.

 

 

4.16

P-04-501 Gwneud Canolfannau Dydd ar gyfer pobl hŷn yn ofyniad statudol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i dynnu sylw Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol at y ddeiseb, a gofyn a oes ganddynt gapasiti i edrych ar y mater.

 

 

4.17

P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         nodi'r ymatebion; a

·         grwpio'r ddeiseb gyda P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc, a dod yn ôl at y ddwy ddeiseb pan fydd y Gweinidog wedi gorffen ei adolygiad.

 

4.18

P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am ymateb y deisebydd a'r Cyngor Sir.

 

4.19

P-04-419 Moratoriwm ar Ddatblygu Ffermydd Gwynt

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni ymateb y Gweinidog, a nododd yn glir nad yw'n cefnogi moratoriwm ar ddatblygu ffermydd gwynt.

 

4.20

P-04-423 Cartref Nyrsio Brooklands

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod y cais cynllunio, a oedd wrth wraidd y ddeiseb, bellach wedi'i dynnu'n ôl.

 

4.21

P-04-469 Dileu’r Cap Rhanbarthol ar Brisiau mewn Perthynas â’r Cynllun Hawl i Brynu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni ymateb y Gweinidog, a nododd yn glir nad yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu newid ei pholisi yn y maes hwn.

 

4.22

P-04-473 Cymorth Ariannol ar gyfer yr Ymchwiliad Cyhoeddus i Ffermydd Gwynt

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgîl ymateb yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd a Llywodraeth Cymru, a nododd eu barn yn glir.

 

4.23

P-04-497 Cynllun Tai Cenedlaethol i Raddedigion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni ymateb y Gweinidog, a nododd ei bod yn annhebygol y byddai Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu cynllun o'r fath.

 

4.24

P-04-503 Adfywio Tonpentre a Phentre

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb, yng ngoleuni datganiad y Gweinidog bod y Rhaglen Gydgyfeirio Ewropeaidd wedi'i hymrwymo'n llwyr, a'i bod yn rhy fuan yn y rhaglen newydd i ystyried ceisiadau unigol. 

 

4.25

P-04-397 Cyflog Byw

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Partneriaeth y Gweithlu i ofyn pryd y maent yn bwriadu datblygu'r cynllun Cyflog Byw. 

 

 

4.26

P-04-454 Gwahardd yr Arfer o Ddal Swyddi fel Cynghorydd ac fel Aelod Cynulliad ar yr un Pryd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn eto i'r deisebydd a oes ganddo unrhyw sylwadau am yr ymatebion a ddaeth i law

 

4.27

P-04-495 Rhoi Terfyn ar Fasnachu mewn Pobl a Chaethwasiaeth yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol gan dynnu sylw at y ddeiseb fel rhan o'r gwaith y mae’r Pwyllgor yn ei wneud ar hyn o bryd mewn perthynas â Masnachu mewn Pobl; a

·         chau'r ddeiseb. 

 

 

4.28

P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i'w gohirio a'i thrafod mewn cyfarfod yn y dyfodol, er mwyn i'r Pwyllgor gael amser i ystyried barn y deisebwyr am lythyr yr RSPCA.

 

4.29

P-04-422 Ffracio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd yr eitem hon i'w thrafod ar 10 Rhagfyr 2013.

 

4.30

P-04-444 : Ymgyrch 'Dig for Victory'

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd yr eitem hon i'w thrafod ar 10 Rhagfyr 2013.

 

4.31

P-04-436 Gwariant a Refeniw Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd yr eitem hon i'w thrafod ar 10 Rhagfyr 2013.

 

4.32

P-04-441 Gwaith i Gymru - Work for Wales

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd yr eitem hon i'w thrafod ar 10 Rhagfyr 2013.

 

4.33

P-04-484 Lwfans Cynhaliaeth Addysg i bawb!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd yr eitem hon i'w thrafod ar 10 Rhagfyr 2013.