P-04-490 Meddyginiaeth Gwrth-retrofeirysol yng Nghaerdydd

P-04-490 Meddyginiaeth Gwrth-retrofeirysol yng Nghaerdydd

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i weithredu ynghylch y cyflenwad cyfyngedig iawn o feddyginiaethau HIV gwrth-retrofeirysol. Mae newidiadau diweddar a wnaed gan Ysbyty Athrofaol Caerdydd yn golygu bod yn rhaid i bob claf sy’n cael meddyginiaethau gwrth-retrofeirysol naill ai ddod i fferyllfa’r ysbyty, sydd ag amseroedd agor cyfyngedig, neu ddewis i’r feddyginiaeth gael ei hanfon i’r cartref. Caiff cleifion sefydlog sy’n glynu at y driniaeth apwyntiad bob 4-6 mis gyda’r ymgynghorydd. Er hynny, mae dosbarthiad meddyginiaethau wedii gyfyngu i gyflenwad misol yn unig. Nid ywr Gweinidog Iechyd yn teimlo mai ei gyfrifoldeb ef yw hyn ac nid yw am ymyrryd. Dylai cleifion gael dosbarthiad teg o feddyginiaeth yn unol â chanllawiau cymdeithas HIV y DU.

 

Prif ddeisebydd:  Joerg Thieme

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 18 Mehefin 2013

 

Nifer y llofnodion : 150

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/06/2013