P-04-397 Cyflog Byw
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gadw at ei haddewid i weithio tuag at gyflog byw i bob gweithiwr yng Nghymru a dweud
wrthym pryd a sut y bydd yn
gwneud i hyn ddigwydd.
Waeth pa mor galed y maent yn
ymdrechu, nid yw’r isafswm cyflog
yn ddigon i rai rhieni gael
deupen llinyn ynghyd a rhoi’r cyfle gorau mewn
bywyd i blant fel ni. Mae’r
cyflog byw yn golygu y byddai
rhieni sy’n gweithio yn ennill
o leiaf £7.20 yr awr.
Rydym yn ymgyrchwyr ifanc sy’n gweithio gydag
Achub y Plant ledled y DU o
blaid newid. Rydym yn ymgyrchu
dros gyflog byw, ac yn cynrychioli
barn pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau yng Nghymru.
Cyflwynwyd y ddeiseb gan: Achub y Plant
Ystyriwyd y ddeiseb am y tro cyntaf: 19 Mehefin 2012
Nifer y llofnodion: 196
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/04/2014