P-04-393 Grwp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant
P-04-393 Grwp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i adfer y cynlluniau ar gyfer ffordd osgoi
heibio i bentrefi Pant a Llanymynech, sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Bydd
15,000 o geir a lorïau yn gyrru trwy’r ddau bentref bob dydd, a bydd y nifer
hwn yn siŵr o gynyddu unwaith y
rhoddir caniatâd i’r ffermydd gwynt. Rydym yn galw ar y llywodraeth yn awr i fwrw ymlaen â’i chynlluniau, neu i
ddechrau cynnal trafodaethau am y ffordd osgoi o leiaf, a chynnal dadl lawn yn
ei chylch, gan wrando ar lais ein cymuned ynghylch ein hanghenion a sut y mae’r
ffordd hon yn effeithio arnom ni ac ar ein bywydau. O wneud hyn, gobeithio y
bydd y llywodraeth yn Lloegr yn cymryd sylw o’r drafodaeth ac yn bwrw ymlaen â
chynlluniau ar eu hochr hwy i’r ffin. Ein dymuniad yw y bydd dadl lawn ac
agored yn cael ei chynnal ar yr angen am ffordd osgoi i bentrefi Pant a
Llanymynech, a fydd wedyn yn arwain at adeiladu’r ffordd osgoi pan fydd arian
ar gael.
Rydym wedi cael llond bol ar y sŵn, y llygredd, a’r ffaith na allwn gerdded gyda’n plant i’r ysgol, cerdded i’r siopau, na mynd a’n cŵn am dro ar hyd y ffordd.
Ni fydd gwelliannau fel lledu’r ffordd yn gweithio yma. Cynlluniwyd y ffordd i
ddechrau fel ffordd un lôn ar gyfer ceffylau a cherti. Mae llawer o’r tai ar y ddwy ochr yn agos
iawn at y ffordd, ac mae nifer o lonydd yn ymuno â’r A483, sydd hefyd yn gwneud
y ffordd yn anaddas i’w gwella. Teimlwn mai adeiladu ffordd osgoi yw’r unig
ateb, a throi’r ffordd o Lynclys (sy’n hynod o beryglus) o gylch pentrefi Pant
a Llanymynech a’i chysylltu â’r ffordd osgoi newydd ger Llandysilio. Hon yw’r
brif gefnffordd rhwng Manceinion ac Abertawe, ac nid yw’n addas i’w diben. Mae
llawer o Aelodau Seneddol ac Aelodau’r Cynulliad o blaid ein hymgyrch ac rydym
yn benderfynol o gyflawni ein hamcan, a gweld dadl lawn yn cael ei chynnal ar y
mater hwn yn y Cynulliad.
Cyflwynwyd y ddeiseb gan: Duncan Borthwick
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 29
Mai 2012
Nifer y llofnodion: 84
Trafodwyd y ddeiseb hon gan y Pwyllgor ar 23
Chwefror 2016 o dan Eitem 4 ar yr Agenda –
Deisebau y cynigir y dylid eu cau, a chytunodd i gau’r ddeiseb.
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/05/2016
Angen Penderfyniad: 14 Meh 2012 Yn ôl Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad