P-04-473 Cymorth Ariannol ar gyfer yr Ymchwiliad Cyhoeddus i Ffermydd Gwynt

P-04-473 Cymorth Ariannol ar gyfer yr Ymchwiliad Cyhoeddus i Ffermydd Gwynt

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth ariannol ychwanegol sylweddol i helpu Cyngor Sir Powys i amddiffyn ei safiad yn ystod yr Ymchwiliad Cyhoeddus Cyfun i ddatblygiadau ffermydd gwynt ym Mhowys, a gynhelir yn fuan.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Gwnaed y penderfyniad i wrthwynebu’r ceisiadau drwy broses gyfreithiol a democrataidd gan Gynghorwyr Sir sy’n cynrychioli pobl Powys. Bydd y broses hon yn parhau drwy gynnal ymchwiliad cyhoeddus cyfun. Drwy wrthod darparu arian a chymorth, ymddengys na roddodd Llywodraeth Cymru ystyriaeth o gwbl i atebolrwydd democrataidd lleol.

 

Prif ddeisebydd:  John Christopher Day

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 16 Ebrill 2013

 

Nifer y llofnodion: 1247

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/04/2013