P-04-475 Yn eisiau – Bysiau i Feirionnydd
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i:
- Adolygu’r arian a ddarperir ar gyfer gwasanaethau bysiau gwledig i
sicrhau bod gwasanaethau digonol ar gael ar gyfer Gwynedd yn ei chyfanrwydd,
ond yn benodol ar gyfer de Meirionnydd.
- Ystyried rhoi sicrwydd bod arian ar gael i ddarparu ar gyfer
gwasanaethau ychwanegol, er mwyn ei gwneud yn haws i gyrraedd gwasanaethau
iechyd, addysg a chyflogaeth, ac i gefnogi economi a thwristiaeth yn yr
ardal.
Prif
ddeisebydd: Barbara Snowball
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 30 Ebrill 2013
Nifer
y llofnodion : 174
Statws
Yn ei gyfarfod ar
07/03/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i
chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r
ddeiseb ar y sail nad yw'n bosibl i fwrw ymlaen â'r mater o ystyried yr
anhawster o ran cysylltu â'r deisebydd, a'r ffaith bod y ddeiseb wedi cael ei
hystyried fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i Fysiau a Chludiant
Cymunedol yn y Pedwerydd Cynulliad.
Gellir gweld manylion llawn
ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y
tab Cyfarfodydd uchod.
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/04/2013