P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru
Rydym
yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i roi gwybod i Lywodraeth Cymru am yr
angen brys i ddarparu uned anhwylderau bwyta arbenigol yng Nghymru.
Gwybodaeth ychwanegol:
Hoffem
weld uned anhwylderau bwyta arbenigol yn cael ei hadeiladu yng Nghymru i
leihau’r pwysau a’r anghyfleustra o orfod teithio mor bell o aelodau’r teulu a
chyfeillion drwy orfod mynd i Loegr i gael triniaeth. Yn 2007, cydnabu’r
Llywodraeth nad oedd triniaeth arbenigol ar gael yng Nghymru a bod angen i’r
sefyllfa hon newid, ond bum mlynedd yn ddiweddarach rydym yn dal i aros am y
newid hwnnw. Gwn o brofiad personol pa mor anodd yw bod mewn ysbyty mor bell o
gartref, a chredaf y byddai cael uned anhwylderau bwyta yng Nghymru yn gwneud y
broses o gael triniaeth ac o wella yn rhwyddach i ddioddefwyr o Gymru.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 04/02/2020 penderfynodd y
Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Ystyriodd y Pwyllgor y
ddeiseb ochr yn ochr â P-04-408
Gwasanaeth i Atal Anhwylderau Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc a chytunwyd i gau’r ddwy ddeiseb o ystyried bod
adolygiad annibynnol manwl o wasanaethau anhwylderau bwyta wedi’i gynnal a bod
Llywodraeth Cymru yn craffu ar ymatebion y byrddau iechyd i argymhellion yr
adolygiad, ynghyd â darparu adnoddau ychwanegol ei hun.
Gellir gweld manylion
llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig
ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 08/10/2013.
Prif ddeisebydd: Keira Marlow
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 8 Hydref 2013
Nifer y llofnodion : 526
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/10/2013