P-04-446 Rhyddhad Ardrethi Busnes i siopau elusen yng Nghymru
Mae siopau elusen yn
gwneud cyfraniad hollbwysig i godi arian ar gyfer
ystod eang o achosion da yng Nghymru. Mae 100 y cant o’u helw yn mynd
i elusen, gan godi dros £12 miliwn
bob blwyddyn yng Nghymru.
Byddai cynlluniau i leihau cymorth cyfradd i siopau elusen yng Nghymru
yn lleihau’r incwm hwn, a byddai’n
achosi i siopau elusen i gau, gan adael
mwy o siopau gwag ar strydoedd
mawr Cymru ac yn bygwth 700 o swyddi llawn amser a 9,000 o gyfleoedd gwirfoddoli sy’n cael eu
cynnig gan siopau elusen yng
Nghymru. Byddai’n lleihau y gwasanaethau mae elusennau yn
gallu eu darparu i gymunedau yng Nghymru yn
arwyddocaol.
Rydym ni’n galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i
wrthod cynlluniau allai gyfyngu y cymorth cyfradd hanfodol i siopau elusen Cymru.
Prif ddeisebydd: Charity Retail Association
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan
y Pwyllgor: 15
Ionawr 2013
Nifer y llofnodion: +22,600
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/07/2013