P-04-474 Cefnogaeth i wasanaethau caplaniaeth y GIG

P-04-474 Cefnogaeth i wasanaethau caplaniaeth y GIG

Rydym yn cydnabod cyfraniad cadarnhaol gwasanaethau caplaniaeth ysbytai o ran darparu gofal ysbrydol o fewn y GIG yng Nghymru ac yn cydnabod y gwaith aruthrol y mae’r gwasanaeth caplaniaeth yn y GIG yn ei ddarparu.

 

Mae’r gwasanaeth hwn yn chwarae rhan bwysig yn lles ysbrydol cleifion a staff y GIG, nid yn unig i’r rheini sydd â chysylltiad crefyddol ond hefyd i eraill nad oes ganddynt unrhyw gysylltiad â grŵp crefyddol. Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i barhau â’i ymrwymiad i ariannu gwasanaethau caplaniaeth ysbytai ac i ehangu manteision gwasanaethau caplaniaeth i leoliadau gofal eraill, gan gynnwys lleoliadau gofal sylfaenol a chymdeithasol.

 

Prif ddeisebydd:  Jim Stewart

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 16 Ebrill 2013

 

Nifer y llofnodion: 1077

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/04/2013