P-04-444 : Ymgyrch ’DIG FOR VICTORY’

P-04-444 : Ymgyrch ’DIG FOR VICTORY’

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno ymgyrch ‘Dig for Victory’ gyfoes drwy gynghorau lleol.

 

Gyda phris bwyd yn parhau i godi yn ystod cyfnod o ddirwasgiad, mae angen unwaith eto i ni dyfu ein bwyd ein hunain, fel y gwnaethpwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pan gyflwynwyd ymgyrch ‘Dig for Victory’ i sicrhau bod pawb yn cael bwyd.  Os byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ymgyrch debyg drwy’r cynghorau lleol, gan roi talebau neu hadau, compost neu hyd yn oed cutiau ieir ac ieir (lle bo hynny’n briodol), byddai pobl yn cael budd ariannol a byddai eu hiechyd hefyd yn elwa.  Byddai hefyd yn cwtogi ar y bwyd  rydym yn ei fewnforio, gan leihau ein hôl troed carbon.  Mae gan y rhan fwyaf o bobl ardd, a gall pobl sydd heb ardd dyfu rhai llysiau ar batio neu falconi.  Gadewch i ni balu i fuddugoliaeth.

 

Prif ddeisebydd: Plaid Cymru Aberavon

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  15 Ionawr 2013

 

Nifer y llofnodion:  13

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/07/2013