P-04-497 Cynllun Tai Cenedlaethol i Raddedigion
P-04-497 Cynllun Tai Cenedlaethol i Raddedigion
Rydym yn
galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gefnogi
cynllun i adeiladu Tai ar gyfer Graddedigion.
Gwybodaeth
ategol
Manylion am y Cynlluniau Tai Cenedlaethol Arfaethedig i Raddedigion
Cyfres chwyldroadol o Henebion Cenedlaethol a ddisgrifir gennyf fan hyn, ac mae
gan yr adeiladau hyn swyddogaeth sy’n effeithio ar dwf cymdeithasol craidd.
Tyrau o gyfleoedd a chanolfannau o ailddatblygu; y Cynlluniau Tai Cenedlaethol
i Raddedigion yw’r agwedd fwyaf real ar y byd fel y bydd yn y dyfodol. Wedi’u
hadeiladu yn yr un dull â’n canolfannau siopa a’n hysbytai mwyaf modern; mae’r
campweithiau hyn yn ysblennydd ac yn gyraeddadwy i lawer iawn o bobl. Rwy’n
dychmygu ystadau o adeiladau sydd cyfuwch ag wyth neu ddeuddeg llawr. Wedi’u
hadeiladu o fframiau dur; mae eu ffurf yn llyfn a’u swyddogaeth yn gadarn. Gall
y trigolion fwynhau bwyd a gwin da, coffi, ffasiwn a dawnsfeydd. Y cyfan o fewn
ffiniau a chyfleusterau eu hadeiladau hynod.
Mae’r lefelau stryd isaf yn cynnwys strydoedd, canolfannau siopa, a rhesi o
dai. Y syniad yma yw bod y datblygiadau modern iawn hyn yn well nag ymdrechion
blaenorol i greu tai torfol, a hynny am fod cyfleusterau siopa ac adloniant yn
rhan ohonynt. Mae ‘mannau Canfod Swyddi
i Raddedigion’ ar lefel y brif stryd yn cynnig mwy na chyngor ar yrfaoedd yn
unig. Mae’r cysylltiad rhwng y cenedlaethau yno yn hwyluso dealltwriaeth lawn
o’r union raddau sydd ar y Gofrestr Breswylwyr. Gwaith y Rheolwyr yn y ‘mannau
Canfod Swyddi i Raddedigion’ wedyn yw cynorthwyo graddedigion i ganfod eu lle
yn yr economi. Gellir neilltuo lle i wasanaethau proffesiynol eraill yn y
cynlluniau pensaernïol, a fyddai’n hwyluso’r gwaith o sefydlu busnesau. Gellir
cynnull tasgluoedd amlddisgyblaethol i weithio’n uniongyrchol ar y materion
sydd fwyaf perthnasol i sefydliad myfyrwyr blaengar.
Bydd lle i fusnesau wasanaethu a chyflogi’r preswylwyr yn strwythurau’r
adeiladau mwyaf. Mae’r ddwy neu dair lefel isaf yn cynnwys nifer o unedau, gan
gynnwys siopau bwyd, caffis, bariau, ac ati. Mae lle yn yr adeiladau hefyd ar
gyfer swyddfeydd masnachol/ sifil i dasgluoedd o fyfyrwyr arbenigol a chyrff
proffesiynol weithio ar hyrwyddo’r canolfannau o ran yr economi. Caiff yr un
dulliau cynllunio ac adeiladu a ddefnyddir i lunio’r adeiladau ar gyfer meysydd
economaidd allweddol fel ffasiwn a’r cyfryngau arwain at well lefelau
cyflogaeth.
Mae’n bwysig bod y sector Graddedigion yn cael cefnogaeth gan y Llywodraeth os
yw’r arian y mae’r Llywodraeth wedi’i
fenthyca dal yn ddilys. O ran y Llywodraeth yn ariannu rhent y
Graddedigion sy’n byw yno, mae’r system yn llawer mwy diogel o ran colli arian
os yw’r Llywodraeth hefyd yn Landlord. Mae’r Cynlluniau Tai Cenedlaethol
i Raddedigion yn gampweithiau cymdeithasol-wleidyddol a all brofi eu hunain, ac
a fydd yn profi eu hunain, wrth i’r wlad hon a gwledydd yn fyd-eang edrych
tua’r dyfodol.
Yn olaf, rwy’n awgrymu byd ar gyfer graddedigion a gaiff ei reoli’n syml a
llyfn, fel bod pawb sy’n llwyddo yn y Brifysgol yn dod o hyd i le priodol mewn
cymdeithas sy’n datblygu. Mae hyn, yn syml, yn golygu stiwardiaeth ddoeth ar
gymwysterau, a’u cyfeirio at fusnes.
Prif ddeisebydd:
GWYRDDISM
Ysytyriwyd am y tro
cyntaf gan y Pwyllgor: 24 Medi 2013
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/09/2013