P-04-484 Lwfans Cynhaliaeth Addysg i bawb!
Rydym yn
galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ganiatáu pob plentyn 16-19 oed mewn addysg
llawn amser i gael y £30 llawn
o’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yr wythnos, beth
bynnag yw incwm eu rhieni.
Gwybodaeth ychwanegol: Dylai pob plentyn
16-19 oed gael
y £30 llawn o’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yr wythnos,
beth bynnag yw incwm eu
rhieni. Nid yw pob rhiant
sy’n ennill cyflog digonol yn helpu eu
plant yn ariannol i fynd i’r coleg,
ac mae’n anodd dod o hyd
i waith oherwydd bod y rhan fwyaf o weithleoedd
yn gofyn am brofiad yn eu
meysydd. Dylai pob plentyn gael y lwfans wythnosol, ar yr
amod eu bod yn mynd i’r
ysgol neu’r coleg.
.
Prif ddeisebydd: Jack Gillum
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:
4 Mehefin 2013
Nifer y llofnodion : 10
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/06/2013