Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Steve George  Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

(9:00 - 9:20)

2.

Deisebau newydd

2.1

P-04-504 Diogelwch Cyffordd Pont Maerdy yr A483

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth; a

·         Chyngor Sir Powys

 

yn holi eu barn am y ddeiseb.

 

2.2

P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn ar y ddeiseb.

 

2.3

P-04-506 Pasys bws am ddim / teithio rhatach i’r rhai sy’n hawlio budd-daliadau, i fyfyrwyr a phobl o dan 18 oed

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol:

 

·         Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth; a'r

·         Consortia trafnidiaeth

 

yn holi eu barn am y ddeiseb.

 

2.4

P-04-507 Bil iawnderau yng Nghymru ar gyfer menywod a merched: ymlynu wrth y Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiddymu Gwahaniaethu o bob math yn Erbyn Menywod (CEDAW)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog sy'n gyfrifol am gydraddoldeb i ofyn am ei farn ar y ddeiseb.

 

2.5

P-04-508 Rhaid adfer yr Olygfa o Landyfi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn am ei barn ar y ddeiseb.

 

2.6

P-04-509 Achub Canolfan Tenis Genedlaethol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol:

 

·         y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, yn gofyn am ei farn am y ddeiseb ac i ofyn iddo egluro'r sefyllfa bresennol ynghylch dynodi'r cyfleuster yn Ganolfan Tenis Genedlaethol Cymru;

·         Virgin Active, yn ceisio eglurhad ynghylch a oes ganddynt unrhyw gontractau gyda'r Cyngor neu Lywodraeth Cymru;

·         Canolfan Tenis Abertawe, yn gofyn am wybodaeth am eu profiad diweddar o ran materion ariannu;

 

 

 

(9:20 - 10:00)

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-03-263 Rhestru Parc y Strade

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, yn gofyn am eglurhad ynghylch yr amserlen ar gyfer y Bil Treftadaeth arfaethedig ac a fydd yn cynnwys cynigion mewn perthynas â rhestru lleol;

·         Cadw, yn gofyn am ragor o wybodaeth am y trafodaethau sydd wedi'u cynnal gyda'r datblygwr a'r rhesymau pam na ellir rhestru canolfannau chwaraeon; a

·         yr awdurdod lleol, mewn perthynas â rhestru lleol.

 

3.2

P-04-393 Grŵp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ddiolch iddi am ei hymateb, i ofyn am gael gwybod am ddatblygiadau, ac i ofyn iddi ystyried sefydlu cydweithgor gyda'r adran drafnidiaeth yn Lloegr.

 

3.3

P-04-415 Cefnogaeth am Bennu Parthau Cadwraeth Morol Lefel Gwarchodaeth Uchel

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgîl datganiad diweddar y Gweinidog.

 

3.4

P-04-459 Cysylltiad rheilffordd uniongyrchol o Faes Awyr Caerdydd i ganol Caerdydd a gorllewin Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog.

 

3.5

P-04-468 Pryderon am Ddiogelwch Ffordd A48 Cas-gwent

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog, yn gofyn iddi ystyried sylwadau pellach y deisebydd.

 

3.6

P-04-491 Banc Cenedlaethol ac arian cyflenwol i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         gau'r ddeiseb, gan fod Gweinidogion wedi diystyru cynlluniau i sefydlu Banc Cenedlaethol i Gymru ar hyn o bryd, ac oherwydd bod adolygiad parhaus o fynediad at gyllid yn cael ei gynnal ar hyn o bryd; a

·         anfon pwyntiau pellach y deisebydd ymlaen at Weinidogion ac at yr Athro Jones-Evans.

 

3.7

P-04-402 Gweddïau Cyngor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd a Russell George eu bod yn aelodau o Gyngor Sir Powys. 

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am eglurhad pellach ynghylch yr angen am ddeddfwriaeth;

·         Geisio cyngor cyfreithiol pellach os oes angen; a 

·         ysgrifennu at y deisebydd yn gofyn am eu sylwadau ar ddatganiad y Gweinidog.

 

3.8

P-04-413 Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghwm Cynon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan na chafwyd ymateb gan y deisebydd.

 

3.9

P-04-450 Mae Angen Ysbyty Cwbl Weithredol ar y Barri a Bro Morgannwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i anfon sylwadau pellach y deisebydd ymlaen at Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. 

 

3.10

P-04-428: Ynni amgen ar gyfer goleuadau stryd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan na chafwyd ymateb gan y deisebydd.

 

3.11

P-04-484 Allowance amount Addysg i Bawb!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y deisebydd i ofyn am ymateb i lythyr y Gweinidog.

 

3.12

P-04-485 Camddefnyddio contractau dros dro yn y sector Addysg Bellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i gymryd tystiolaeth lafar am y ddeiseb gan:

 

·         y deisebydd; a

·         ColegauCymru.

 

Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i ofyn i'r Gwasanaeth Ymchwil am grynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar y ddeiseb, a allai hefyd gynnwys unrhyw ymchwil a wnaed gan yr UCU.

 

3.13

P-04-487 Cynllun benthyg blaendal Llywodraeth Cymru i’r rheini sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y Gweinidog ar sylwadau pellach y deisebydd.

 

3.14

P-04-489 Deddf genedlaethol i Gymru ar dai fforddiadwy ac â blaenoriaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y Gweinidog ar sylwadau pellach y deisebydd.

 

(10:00 - 10.30)

4.

P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc: Sesiwn Dystiolaeth gyda'r Deisebydd

Helen Missen, Deisebydd

 

Susannah Humphrey, Rheolwr Prosiect B-eat Cymru

 

Dr Robin Glaze, Clinigydd Arweiniol ar gyfer gwasanaethau phobl ifanc yng Ngogledd Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd Helen Missen, Susannah Humphrey a Dr Robin Glaze gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 

(10:30 - 11:00)

5.

P-04-408: Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc: Sesiwn Dystiolaeth gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Jo Jordan, Cyfarwyddwr Partneriaethau a Gwasanaethau Corfforaethol

 

Dr Sarah Watkins, Pennaeth Iechyd Meddwl, Troseddwyr a Grwpiau sy’n Agored i Niwed

Cofnodion:

Atebodd Mark Drakeford AC gwestiynau'r pwyllgor, gyda chefnogaeth Jo Jordan a Dr Sarah Watkins.