P-04-428: Ynni amgen ar gyfer goleuadau stryd
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw
ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i newid ffynhonnell ynni goleuadau stryd ar gefnffyrdd yng
Nghymru ac i roi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol yn gofyn
bod goleuadau stryd lleol yn cael
eu newid fel eu bod yn
defnyddio ynni amgen.
Gwybodaeth Ategol :
Mae Llywodraeth Cymru’n honni ei
bod yn gweithio yn ôl Agenda 21, sef lleihau llygredd
drwy leihau’r ynni yr ydym
yn ei ddefnyddio. Yn ystod y nos, mae goleuadau stryd yn golygu
bod yr ynni yr ydym yn
ei ddefnyddio yn cyrraedd uchafswm. Felly, credaf
y dylai’r Llywodraeth newid ffynhonnell ynni goleuadau stryd yn y wlad.
Er enghraifft, mae ynni
solar ac ynni gwynt yn cael eu
defnyddio yn barod ar gyfer
rhai arwyddion stryd, a byddai newid yr holl
oleuadau stryd yn cynnig cyfleoedd
gwaith eang a chynaliadwy i filoedd. Byddai’r darparwyr trydan wedyn yn gallu
gostwng eu prisiau i’r defnyddwyr
a’r awdurdodau lleol..
Prif ddeisebydd: Ethan Gwyn
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 16 Hydref
2012
Nifer y llofnodion: 22
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;