P-04-506 Pasys bws am ddim / teithio rhatach i’r rhai sy’n hawlio budd-daliadau, myfyrwyr a phobl o dan 18 oed
Rwy’n byw mewn ardal lle mae gan dirfeddianwyr cyfoethog a rhai sy’n
berchen ar eu tai basys i deithio ar fysiau am ddim o ganlyniad i’w hoed, wrth
i’r rhai sy’n hawlio budd-daliadau ychydig filltiroedd i ffwrdd orfod talu er
mwyn cael eu budd-daliadau. Dyma esiampl arall o godi tâl ar y rhai syn
dlawd ac sy’n agored i niwed am wasanaeth cyhoeddus sy’n hanfodol i’w bywydau
bob dydd. Mae hynny’n annheg ac yn anghyfiawn. Er mwyn datrys y sefyllfa hon
rwy’n cyflwyno deiseb i Gynulliad Cymru yn galw arni i sefydlu cynllun ar gyfer
y rhai tlawd ac agored i niwed yn ein cymdeithas i gael gwasanaethau bws am
ddim yng Nghymru a thocynnau trên rhatach. Gellir cyllido hyn yn rhwydd drwy
drosglwyddo’r budd-daliadau sydd ar hyn o bryd yn cael eu gwastraffu ar aelodau
cyfoethog cymdeithas i eraill.
Gwybodaeth ychwanegol:
Os bydd y cynllun hwn yn cael ei fabwysiadu bydd yn helpur tlawd yng
Nghymru i gael yr hawl dynol sylfaenol i deithio a defnyddio gwasanaethau
lleol. Yn ychwanegol, bydd yn: gwellar amgylchedd drwy leihau allyriadau
co2; annog defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a chynyddur nifer syn
ei defnyddio; gwella lles emosiynol; hybu cyfleoedd cyflogaeth ir
di-waith; cynorthwyo pobl i gael mynediad at wasanaethau iechyd sylfaenol ac yn
dangos yr angen am system drafnidiaeth integredig (wedi ei gwladoli unwaith
eto).
Prif ddeisebydd:
Mark Griffiths
Ysytyriwyd am y tro
cyntaf gan y Pwyllgor: 8 Hydref 2013
Nifer y llofnodion
: 60
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/10/2013